Mae un o arbenigwyr Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud ei bod yn pryderu am bobl yn gwisgo masgiau heb ymbellhau’n gymdeithasol.

Dywedodd Maria Van Kerkhove, arweinydd technegol Sefydliad Iechyd y Byd ar Covid-19, fod yn rhaid i bobl fod mor ofalus â phosibl i geisio cyfyngu ar ledaeniad y feirws.

Wrth siarad mewn sesiwn friffio Sefydliad Iechyd y Byd ddydd Iau (27 Awst), dywedodd mai dim ond un o nifer o bethau y gall pobl eu gwneud yw gwisgo masgiau – dylid hefyd ymbellhau’n gymdeithasol a golchi dwylo.

Dywedodd: “Rwy’n credu mai un o’r pethau dwi wir eisiau tynnu sylw ato yma, a’r hyn dwi’n dod braidd yn bryderus yn ei gylch, yw lle dwi’n gweld y defnydd o masgiau ac yn gweld nad yw pobl yn glynu wrth ymbellhau corfforol mwyach.

“Hyd yn oed os ydych chi’n gwisgo masg mae angen i chi geisio ymbellhau’n gorfforol – o leiaf un metr a hyd yn oed ymhellach os gallwch.”

Dywedodd nad dim ond masgiau, ymbellhau corfforol neu lanhau dwylo sy’n bwysig: “Gwnewch y cyfan,” meddai.

‘Ymyriadau penodol’

Daw ei sylwadau yn yr wythnos yr argymhellodd Llywodraeth Cymru y dylai staff a disgyblion mewn mewn ysgolion uwchradd wisgo masgiau mewn mannau cymunedol.

Roedd hynny’n unol â chyngor Sefydliad Iechyd y Byd y dylai plant dros 12 oed wisgo masgiau.

Wrth ymateb i gwestiwn ynghylch tynhau’r rheolau ar wisgo masgiau yn Ffrainc, dywedodd Dr Kerkhove fod Sefydliad Iechyd y Byd yn “cefnogi llywodraethau sy’n gwneud y gwahanol ymyriadau y mae angen eu gwneud”.

Ychwanegodd: “Rydym yn gobeithio bod [yr ymyriadau] yn cael eu targedu, yn amserol, ac yn benodol iawn i ble mae eu hangen.”