Mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon, wedi mynegi ei phryder am y gwahaniaethau rhwng cyfyngiadau lleol y cyfnod clo yng Nghymru a Lloegr sy’n galluogi pobol i symud yn rhydd o un rhan o wledydd Prydain i’r llall.

Er nad yw teithio i mewn nac allan o ardal sydd â chyfyngiadau lleol er mwyn mynd ar wyliau yn cael ei ganiatáu yng Nghymru, gall pobol sydd yn byw mewn ardal â chyfyngiadau lleol yn Lloegr deithio i rannau eraill o wledydd Prydain i fynd ar eu gwyliau.

Gall pobol sydd yn byw yn Lloegr hefyd fynd ar eu gwyliau i ardaloedd sydd â chyfyngiadau lleol.

Eglurodd Siân Gwenllian wrth golwg360 fod y gwahaniaethau yma yn “codi pryder sylweddol i’r boblogaeth leol yng Nghymru”.

“Dydy hi ddim yn gwneud llawer o synnwyr bod rhywun sydd yn byw yng Nghaerffili neu’r Rhondda yn gorfod aros o fewn yr ardal honno, oni bai bod rheswm da ganddyn nhw i adael, ond fod cyfyngiadau teithio tebyg ddim ar waith mewn ardaloedd sydd â chyfyngiadau lleol yn Lloegr,” meddai.

“Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gael y drafodaeth yma gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”

Yn ogystal â Chaerffili a Rhondda Cynon Taf bydd cyfyngiadau newydd yn dod i rym ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Casnewydd a Blaenau Gwent heno (nos Fawrth, Medi 22).

‘Deialog annigonol’

Eglura Siân Gwenllian fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi colli cyfle i gael deialog cyson gyda’r llywodraethau datganoledig.

“Mae’n ymddangos nad oes yna ddeialog digonol o bell ffordd wedi bod dros yr haf,” meddai.

“Dw i ddim yn meddwl mai bai Llywodraeth Cymru yw’r diffyg dialog, i ddweud y gwir dw i’n rhannu rhwystredigaeth Prif Weinidog Cymru ar y mater.

“Byddai rhywun yn meddwl byddai trafodaethau cyson wedi digwydd i flaengynllunio, yn enwedig gan fod arbenigwyr yn dweud bod yna ail don yn debygol.

“Dw i’n llwyr gytuno fod gan lywodraethau gwahanol yr hawl i wneud dewisiadau gwahanol, a dw i’n cytuno â llywodraeth Cymru ar gyfyngu teithio allan o ardaloedd sydd dan glo lleol.

“Ond yn yr achos yma mae’r rheolau gwahanol yn golygu bod poblogaeth Cymru yn cael eu heffeithio.

“Dw i’n mawr obeithio bydd hwn yn fater bydd yn cael sylw yn y cyfarfod cobra heddiw.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru iddyn nhw gytuno i weithredu gyda’i gilydd fel pedair gwlad lle bo angen yn ystod y cyfarfod.

Ychwanegodd y llefarydd bod disgwyl i Mark Drakeford nodi pa fesurau pellach a fydd yn cael eu gweithredu yng Nghymru yn ddiweddarach heddiw (Medi 22).

‘Ddim rhy hwyr i osgoi clo cenedlaethol arall’

Gweithredu lleol yw’r unig ffordd i atal clo cenedlaethol arall, yn ôl Siân Gwenllian.

“Dw i ddim yn credu bod hi rhy hwyr i ni osgoi clo cenedlaethol arall,” meddai.

“Mae’n ymddangos fod ymateb yn sydyn yn yr ardaloedd ble mae yna glwstwr yn cyfyngu’r lledaeniad ac yn cadw’r sefyllfa dan reolaeth.

“Ond mae’n rhaid i ni fod yn barod I wneud hynny, cloi lawr yn syth, ac fel mae pethau wedi digwydd yng Nghaerffili mae’r achosion yn sefydlogi.

“Mae arna i ofn mai dyna’r patrwm sydd am fod, ac mae’n well gen i weld patrwm fel hyn yn digwydd na chlo cenedlaethol arall, a phawb yn gorfod mynd dan yr un cyfyngiadau.”