Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, wedi galw ar Boris Johnson, prif weinidog Prydain, i “amddiffyn cymunedau” Cymru rhag anghydbwysedd cyfyngiadau’r cyfnod clo lleol.

Mae nifer gynyddol o ardaloedd yn wynebu cyfyngiadau wrth i nifer yr achosion gynyddu, gyda phedair ardal newydd yn destun cyfyngiadau o 6 o’r gloch heno (nos Fawrth, Medi 22).ae

Mae dros chwarter poblogaeth Cymru bellach yn wynebu cyfyngiadau lleol, ac mae’r mesurau hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i bobol beidio â theithio oni bai bod rhaid.

Er bod rhannau sylweddol o Loegr hefyd o dan gyfyngiadau lleol, dydy’r un cyfyngiadau ddim yn eu lle yno.

Yn San Steffan heddiw, mae Liz Saville Roberts wedi galw ar Boris Johnson i adolygu’r canllawiau er mwyn sicrhau nad yw pobol o ardaloedd yn Lloegr lle mae cyfraddau uchel yn cludo’r feirws i rannau eraill o wledydd Prydain lle mae’r feirws dan reolaeth.

Pryderon

“Ar ddechrau’r pandemig, roedd pryderon bod pobl yn ymgynnull mewn torfeydd mewn ardaloedd o harddwch fel Yr Wyddfa. Digwyddodd hyn eto’r penwythnos diwethaf,” meddai Liz Saville Roberts yn San Steffan.

“Mae mesurau cloi lleol yng Nghymru bellach yn ei gwneud yn ofynnol i bobl aros yn ardal eu hawdurdod lleol. Nid oes unrhyw ofyniad o’r fath yn bodoli yn Lloegr.

“Yn y sefyllfaoedd anffodus hynny lle mae pobl yn wynebu cyfyngiadau lleol, a wnaiff y Prif Weinidog roi arweiniad clir yn erbyn teithio y tu allan i’r ardal at ddibenion nad ydynt yn hanfodol?”

Ateb Boris Johnson

Yn ôl Boris Johnson, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am benderfynu ar gyfyngiadau neu gyfnod clo lleol.

“Ar gyfer cyfnod clo lleol, caiff yr arweiniad ei roi gan yr awdurdodau lleol yn dilyn y penderfyniad ynghylch pa gyfyngiadau’n union sydd yn eu lle,” meddai.

“Ond yn amlwg, mae’r cyfyngiadau mae hi’n eu hawgrymu yn rhan o’r cymysgedd.”

Wrth ymateb, dywedodd Liz Saville Roberts fod y coronafeirws wedi symud i “gyfnod newydd” erbyn hyn.

“Wrth gwrs rydym am groesawu pobl o’r ardaloedd hynny nad ydyn nhw’n wynebu cyfyngiadau lleol, ond fel yr oedd cynghorwyr gwyddonol Llywodraeth San Steffan wedi’i wneud yn glir ddoe, rydyn ni nawr ar ddechrau cyfnod newydd yn y pandemig hwn,” meddai.

“Mae cyfyngiadau lleol yn cael eu cyhoeddi bron yn ddyddiol, ac mae angen i ni sicrhau, fel oedd yr achos chwe mis yn ôl, ein bod yn lleihau’r lledaeniad i’r ardaloedd hynny lle nad yw’r firws eisoes yn gyffredin.

“Wrth i ni wynebu ail don, rhaid i’r Prif Weinidog ddysgu gwersi’r o’r cyntaf.

“Mae dros chwarter poblogaeth Cymru bellach yn wynebu mesurau cloi lleol. Fel rhan o’r cyfyngiadau hyn, gofynnir yn rhesymol i bobl beidio â theithio yn ddiangen y tu allan i’w hardal leol.’

“Nid yw hyn yn wir yn Lloegr, ac mae pryderon cynyddol mewn cymunedau ledled Cymru, ynghylch lledaenu’r firws o’r ardaloedd hyn i fannau lle mae’r afiechyd dan reolaeth neu yn cilio.’

“Dylai’r Prif Weinidog edrych eto ar y cyngor ar gyfyngiadau lleol yn Lloegr er mwyn amddiffyn cymunedau sy’n ennill y frwydr yn erbyn Coronafirws.”

Cynyddu’r risg

Cafodd sylwadau Liz Saville Roberts eu hategu gan Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon.

“Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i mi y gall pobl mewn llefydd fel Lerpwl, Manceinion a Birmingham, sydd o dan gyfyngiadau lleol, deithio fel y dymunant ar eu gwyliau i rannau o ogledd Cymru a chynyddu’r risg o ledaenu’r firws,” meddai.

“Mae pobl yn dechrau poeni unwaith eto. Rwy’n ofni y gallem weld tensiynau’n codi mewn cymunedau fel y gwelsom ar ddechrau’r cyfnod cloi. Rhaid i Lywodraeth Cymru ei gwneud hi’n glir i Lywodraeth y DU nad yw hyn yn dderbyniol.”