Mae Julian Winter, prif weithredwr newydd Clwb Pêl-droed Abertawe, yn dweud bod gan y clwb “seiliau cadarn” i adeiladu arnyn nhw, er iddyn nhw deimlo’r wasgfa ariannol o hyd a ddaeth yn sgil cwympo o Uwch Gynghrair Lloegr sawl tymor yn ôl.
Mae Winter yn ei ail ddiwrnod yn y swydd heddiw (dydd Mawrth, Medi 22), ar ôl olynu’r cyn-gadeirydd Trevor Birch, sydd wedi ymuno â Spurs, ac fe fu’n siarad mewn cynhadledd i’r wasg.
Mae’n dweud bod achos i fod yn optimistaidd ar gyfer y dyfodol ar y cae ac oddi arno.
“Mae’n ddyddiau cynnar ond dw i’n credu bod gan y clwb seiliau cadarn i ddatblygu arnyn nhw, er gwaetha’r heriau o ddod allan o’r Uwch Gynghrair sawl blwyddyn yn ôl,” meddai.
“Mae cyfleusterau gwych yma, mae pobol wych yma.
“Mae gan y clwb pêl-droed hunaniaeth wych yn y ffordd rydyn ni’n chwarae.
“Mae Steve [Cooper] fel hyfforddwr wedi sylweddoli’r hunaniaeth honno o ran y dull o chwarae.
“Mae’r clwb wir yn glwb pêl-droed da, ac fe ddylai fod yn dîm cystadleuol iawn yn y Bencampwriaeth, ac yn dyheu am fod yn yr Uwch Gynghrair, os ga’ i ddweud.
“Ond mae hynny’n ffaith, mae’n rhaid i bob clwb yn y Bencampwriaeth ddyheu am hynny.
“Rydych chi yma i gystadlu, rydych chi yma i chwarae a gwneud y gorau o’r hyn sydd gyda chi.”
Y sefyllfa ariannol
Rhan o’r darlun yn unig yw sefyllfa ariannol y clwb, yn ôl Julian Winter.
“Dw i wedi gweithio gyda chlybiau lle bu heriau tebyg,” meddai.
“Cyllideb yw cyllideb, dw i newydd ddod o glwb pêl-droed oedd ag un o’r cyllidebau lleiaf yn y Bencampwriaeth ond cawson nhw eu dyrchafu [Huddersfield].
“Daeth nifer o bethau ynghyd, felly dydy e ddim allan o gyrraedd.
“Rhaid i chi werthfawrogi pa mor gystadleuol yw’r adran hon yn ariannol, ond peidio â phoeni’n ormodol am yr hyn mae eraill yn ei wneud.
“Rhaid i chi wneud yr hyn rydych chi’n ei wneud ar draws y clwb pêl-droed.
“Rydyn ni yma i roi’r tîm gorau allwn ni ar y cae o gofio’r adnoddau sydd gyda ni.”
Mae’n dweud y byddai gwneud fel arall yn peryglu dyfodol y clwb ac yn ailadrodd y camgymeriad mae sawl clwb arall wedi’i wneud ar hyd y blynyddoedd.