Mae enw Casnewydd yn yr het ar gyfer pedwaredd rownd Cwpan Carabao am y tro cyntaf erioed, ar ôl iddyn nhw roi crasfa annisgwyl o 3-1 i Watford, sy’n chwarae yn y Bencampwriaeth ar ôl gostwng o Uwch Gynghrair Lloegr ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Sgoriodd Tristan Abrahams o’r smotyn, wrth i Joss Labadie a Padraig Amond hefyd rwydo i’r tîm cartref yn Rodney Parade, wrth i Adalberto Penaranda rwydo o’r smotyn i’r ymwelwyr, aeth i lawr i ddeg dyn ar ôl i Stipe Perica gael ei anfon o’r cae am daro Brandon Cooper â’i benelin.

Mae’n debygol mai gêm yn erbyn Newcastle fydd eu gwobr yn y rownd nesaf, oni bai bod Morecambe yn gallu efelychu eu camp yn erbyn gwrthwynebwyr mawr.