Bydd ralio’n parhau ar diroedd Cyfoeth Naturiol Cymru tan o leiaf 2023 ar ôl i’r cytundeb â Motorsport UK gael ei ymestyn tan o leiaf 2023.
Bu coedwigoedd Cymru’n gartref i rasys ralio ers degawdau – o rasys ar lawr gwlad i Rali Cymru GB sy’n rhan o Bencampwriaeth Ralio’r Byd.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Cymro Elfyn Evans gyrraedd brig rhestr ddetholion y byd.
“Mae ralio’n ddisgyblaeth bwysig iawn i Motorsport UK, ac mae Cymru’n cynnig yr amgylchfyd perffaith ar gyfer ein digwyddiadau, sy’n cael eu cynnal yn rhai o’r llefydd uchaf eu parch ym myd ralio,” meddai Hugh Chambers, prif weithredwr Motorsport UK.
“Nid yn unig y mae’n bwysig i’r cystadleuwyr, ond mae’r digwyddiadau hyn yn cyfrannu mewn modd allweddol at yr isadeiledd o’u cwmpas nhw, gan gynnwys y sectorau lletygarwch lleol, yn ogystal â busnesau cysylltiedig y gamp sy’n dibynnu’n helaeth ar ralio mewn coedwigoedd.
“Byddwn yn cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau’r nifer fwyaf o ddigwyddiadau, gan gydweithio’n effeithiol â’n cymunedau lleol er mwyn sicrhau ei fod yn fforddadwy i’n cystadleuwyr twy strategaeth gynaladwy.
“Trwy hyn, gallwn gynnal y gamp a choedwigoedd am genedlaethau i ddod.”
‘Her unigryw i yrwyr’
“Mae’r coedwigoedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n eu rheoli yng Nghymru yn gadarnleoedd ralio yn y Deyrnas Unedig ac maen nhw’n cynnig her unigryw i yrwyr,” meddai Dominic Driver, pennaeth stiwardiaeth tir Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Mae ralio’n gwneud cyfraniad pwysig i’n heconomi wledig ac mae nifer o fanteision cymunedol yn deillio o’r digwyddiadau hyn.
“Mae effaith COVID-19 wedi gweld mwy a mwy o bobol yn dychwelyd i ymweld â choedwigoedd ein cenedl ac mae hyn wedi rhoi mwy o ffocws ar yr angen i barchu ein hamgylchfyd naturiol.
“Wrth ddod i’r cytundeb hwn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n ystyried effaith lawn popeth rydyn ni’n ei wneud ar y llefydd mae pobol yn eu caru.
“Mae hyn yn cynnwys yr ymrwymiad i gydweithio â Motorsport UK ar y daith tuag at ddod yn gamp fwy gwyrdd a mwy cynaladwy yn y dyfodol.
“Bydd yr uchelgais hwn yn aros wrth galon ein trafodaethau wrth i ni gydweithio â threfnwyr digwyddiadau ralio ar y rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer 2021 a thu hwnt.”