Bydd Cymru’n chwarae eu gêm Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban ym Mharc y Scarlets yn Llanelli ar 31 Hydref – gêm gyntaf y tîm rhyngwladol yn y dref ers 1998.

Bydd Cymru hefyd yn wynebu Georgia ym Mharc y Scarlets dair wythnos yn ddiweddarach ym mis Tachwedd.

Yr Ariannin oedd y gwrthwynebwyr ar Barc y Strade bryd hynny.

Roedd adroddiadau bod Undeb Rygbi Cymru yn bwriadu chwarae eu gemau cartref yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref yn Llundain am resymau ariannol.

Ac heddiw (23 Medi), dywedodd yr Undeb nad yw’r lleoliad ar gyfer gem Cwpan y Cenhedloedd “cartref” Cymru yn erbyn Lloegr ym mis Tachwedd wedi’i benderfynu eto.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod opsiynau o hyd i chwarae Lloegr ar 28 Tachwedd a gêm Gwpan y Cenhedloedd ar Rhagfyr 5 yn Llundain “er mwyn sicrhau’r refeniw mwyaf posibl.”

Credir bod Stadiwm Tottenham Hotspur a Stadiwm Arsenal ymhlith yr opsiynau posibl.

“Rydym yn gobeithio y bydd cefnogwyr yn deall bod dyletswydd arnom i barhau i archwilio’r holl opsiynau cyn gwneud penderfyniad terfynol mewn perthynas â Lloegr a gêm derfynol Cwpan y Cenhedloedd Hydref,” meddai prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips.

Stadiwm Principality

Fis Ebrill, cafodd Stadiwm Principality ei throi’n ysbyty dros dro.

Cafodd £8m ei wario ar adeiladu’r ysbyty maes yn y stadiwm genedlaethol, ond dim ond 46 o gleifion gafodd eu trin yno.

Mae’r ysbyty dros dro bellach yn cael ei ddatgomisiynu, ond mae’n annhebygol y bydd y stadiwm genedlaethol ar gael i gynnal digwyddiadau chwaraeon tan y flwyddyn newydd.

Er bod rhannau o Barc y Scarlets yn parhau i gael eu defnyddio fel ysbyty maes, mae’r cyfleusterau ysbyty eisoes wedi’u datgomisiynu yn y brif stadiwm.