Bydd Rob Howley yn ailadeiladu ei yrfa fel hyfforddwr yng Nghanada.
Mae cyn-hyfforddwr tîm cenedlaethol Cymru wedi cael ei benodi’n uwch-gynorthwydd i Kingsley Jones, prif hyfforddwr tîm y Canucks.
Mae’r cytundeb tair blynedd yn golygu y bydd Rob Howley yn gweithio yn ystod Cwpan y Byd 2023, yn ogystal ag ymgynghori’r Toronto Arrows yn ystod y Major League Rygbi yn 2021.
Dyma benodiad cyntaf Rob Howley ers iddo gael ei wahardd rhag hyfforddi am ddeunaw mis fis Rhagfyr diwethaf am osod 363 o fetiau ar gemau rygbi.
Fel arall, mae record chwarae a hyfforddi Rob Howley yn rhagorol.
Enillodd 59 o gapiau i Gymru gan ymddangos ar ddwy o deithiau’r Llewod, cyn mynd ymlaen i hyfforddi Cymru a’r Llewod.
“Hapus iawn o fod yn ymuno â Rygbi Canada”
“Dw i’n hapus iawn i fod yn ymuno â Rygbi Canada a dechrau cyd-weithio â Kingsley Jones a hyfforddwyr eraill Canada,” meddai Rob Howley.
“Mae dechrau gweithio a chynorthwyo i baratoi Canada at gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn gyffrous!
“Yn ogystal, dw i’n edrych ymlaen at fy nhymor cyntaf yn y Major League Rugby gyda’r Toronto Arrows.
Wrth gyfeirio at dîm cenedlaethol Canada dywedodd ei fod yn “debyg iawn i’w brofiadau blaenorol yn hyfforddi yng Nghymru.”