Colli o 1-0 oedd hanes tîm pêl-droed merched Cymru yn erbyn Norwy yn ymgyrch ragbrofol Ewrop yn Oslo neithiwr (nos Fawrth, Medi 23).

Daeth y gôl fuddugol gan Guro Reiten.

Roedd Jess Fishlock yn ôl ar y cae i dîm Jayne Ludlow am y tro cyntaf ers 18 mis, ac roedd hi’n edrych yn gyfforddus ar ôl gwella o anaf i’r gewyn croesffurf blaenaf (anterior cruciate ligament).

Wnaeth hi fwrw iddi o’r cychwyn cyntaf, gan daro ergyd o bell oedd wedi arwain at gic gornel gynta’i thîm.

Ond buan yr oedd Cymru dan bwysau, er iddyn nhw gael cryn dipyn o feddiant, wrth i’r gôl ddod ar ôl 27 munud yn dilyn cyfnod o ymosod, ac ergyd Reiten yn cael ei thanio i gornel ucha’r rhwyd.

Dechreuodd Cymru’r ail hanner yn gryf eto, gyda Natasha Harding yn creu cyfle i lawr yr asgell dde, a’i hergyd yn mynd dros y trawst.

Gallai Norwy fod wedi ymestyn eu mantais funudau’n ddiweddarach, wrth i Graham Hansen daro cefn y rhwyd o’r tu allan i’r cwrt cosbi, ond chafodd y gôl ddim sefyll am fod chwaraewyr yn camsefyll.

Daeth cyfle i Kayleigh Green gydag 20 munud yn weddill wrth i groesiad lanio yn y cwrt cosbi, ond safodd y golwr yn gadarn eto wrth i Gymru barhau i frwydro.

Er i Gymru gael dwy gic gornel yn y munudau olaf, arhosodd amddiffyn Norwy yn gadarn, gan arbed sawl ergyd hwyr.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Cymru’n ail yn y tabl gyda thair gêm gartre’n weddill, a’u gwrthwynebwyr nesaf fis nesaf fydd Ynysoedd Faroe a Norwy eto.