Mae cwestiynau wedi codi ynghylch y penderfyniad i osod Llanelli dan gyfyngiadau newydd yn gynt na Chaerdydd ac Abertawe.

Yn siarad â’r wasg brynhawn heddiw, cyhoeddodd Vaughan Gething y byddai’r ardaloedd yn wynebu cyfyngiadau llymach yn sgil cynnydd mewn achosion Covid-19.

Bydd y rheolau yn dod i rym yn Llanelli (ond nid gweddill Sir Gâr) am chwech nos  Sadwrn, yn ôl y Gweinidog Iechyd, ond yn dod i rym 24 awr yn ddiweddarach yn y ddwy ddinas.

Yn sgil cwestiwn gan newyddiadurwr, wnaeth y Gweinidog Iechyd gynnig eglurhad amwys am y rhesymeg tu ôl y cam, ac mae wedi cael ei feirniadu am beidio â bod yn gliriach.

Drysu Andrew RT Davies

Mae Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, wedi croesawu’r penderfyniad i dargedu’r cyfyngiadau yn Sir Gâr ar Lanelli yn unig, ond mae’n dal i grafu ei ben yn dilyn ateb y gweinidog.

“Mae’n rhaid i mi gyfadde’, dw i wedi drysu,” meddai. “Pam bod y cyfyngiadau yn cael eu cyflwyno ar ddiwrnodau gwahanol yng Nghaerdydd ac Abertawe, a Llanelli?

“Does gan covid ddim syniad pa ddiwrnod yw hi. A doeddwn i ddim yn credu bod eglurhad y Gweinidog Iechyd yn ddigonol.

“Mae eglurder a chysondeb yn allweddol, a dyw Llywodraeth Llafur Cymru ddim yn rhoi hynny i ni ar hyn o bryd.”

Yr ateb a ddrysodd

Wrth annerch y gynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw, dywedodd Vaughan Gething bod gan Lanelli “her benodol” a “lledaeniad sylweddol sydd ddim dan reolaeth”.

Soniodd hefyd am yr angen i “weithredu cyn gynted a phosib” – felly’r awgrym oedd bod sefyllfa’r dref yn fwy difrifol a bod angen gweithredu yn gynt nag yn y dinasoedd.

O ran y ddwy ddinas, dywedodd bod gadael pethau tan ddydd Sul yn rhoi cyfle i bobol baratoi – fydd pobol Llanelli, wrth gwrs, ddim yn cael cymaint o gyfle i baratoi.

Dywedodd hefyd y byddai’n “rhoi amser” i Lywodraeth Cymru ddod i benderfyniad ynghylch Castell-Nedd Port Talbot, Bro Morgannwg, a Thorfaen – tair ardal yn y de sydd ddim dan glo eto.

Awgrymodd ar ddechrau’r gynhadledd y gallai cyfyngiadau gael eu cyflwyno yn y siroedd hyn erbyn diwedd y penwythnos – gan gyd-daro â chyfyngiadau Caerdydd ac Abertawe.