Mae ymchwiliadau’n parhau i farwolaeth plismon a gafodd ei saethu gan ddyn a oedd mewn cyffion yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu yn ne Llundain.

Mae teyrngedau wedi cael eu talu i Matiu Ratana, 54 oed, a oedd yn wreiddiol o Seland Newydd, ac a oedd wedi ymuno â Heddlu Llundain yn 1991. Fe fu plismyn ledled Llundain yn cynnal munud o dawelwch iddo dan arweiniad y Comisiynydd Cressida Dicks a Maer y ddinas, Sadiq Khan, yn ystod y dydd ddoe.

Fe fu farw Matiu Ratana yn yr ysbyty ar ôl i’r dyn 23 a oedd yn nalfa Croydon saethu ato yn oriau mân bore ddoe (dydd Gwener 25 Medi).

Fe wnaeth hwnnw saethu ei hun hefyd yn y digwyddiad, ac mae bellach mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty. Roedd wedi cael ei arestio’n wreiddiol ar amheuaeth o fod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant gyda bwriad o gyflenwi.