Mae lledaeniad y coronafeirws yn ddifrifol iawn a bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried cyfyngiadau pellach os na fydd y sefyllfa’n gwella.

Dyna oedd rhybudd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething ar raglen BBC Breakfast y bore yma.

Daw ei rybudd wrth i gyfyngiadau clo fod ar fin dod i rym yn Llanelli am 6 heno ac yn Abertawe a Chaerdydd am 6 nos yfory.

“Rydym yn gwneud hyn oherwydd rhaid inni geisio osgoi niwed llawer mwy sylweddol,” meddai. “Os na allwn weld newid yn y ddisgyblaeth dorfol yna bydd yn rhaid inni ystyried mesurau pellach.”

Dywed ein bod mewn sefyllfa ddigon tebyg i’r lle’r oedden ni yn niwedd mis Chwefror, gyda chynnydd mawr yn yr ardaloedd lle mae’r cyfyngiadau lleol yn cael eu cyflwyno.

“Mae chwalfa bellach wedi bod mewn ymbellhau cymdeithasol, gyda mwy o bobl yn cymysgu yn nhai ei gilydd, ac mae hyn wedi ymestyn i dafarnau hefyd, gyda phobl yn peidio â dilyn y rheolau,” meddai. “Mae’n fater o sut rydym yn dewis ymddwyn.”

Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru’n edrych ar y data o Fro Morgannwg a Chastell Nedd Port Talbot y penwythnos yma i weld a oes angen cyfyngiadau newydd yno.

“Fe fydd y data a gawn heddiw ac yfory yn bwysig iawn i weld a oes angen inni weithredu yno yn ogystal,” meddai.