Mae’r mwyafrif o achosion Covid-19 yng Nghaerdydd wedi digwydd mewn rhwydweithiau teuluol wrth i fwy o bobl nag a ddylai gyfarfod ei gilydd o dan do, yn ôl arweinydd cyngor y ddinas.
Wrth i’r ddinas baratoi ar gyfer cychwyn cyfnod cloi lleol o 6 o’r gloch nos yfory ymlaen, dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas ei fod yn sicr mai dyma’r peth doeth i’w wneud.
“Wrth weithredu fel hyn, rydym wedi gorfod pwyso a mesur y difrod economaidd, y gost gymdeithasol, yr effaith ar iechyd meddwl,” meddai.
“Ond rydym wedi gweld yn y gorffennol beth all ddigwydd os oes oedi wrth gyflwyno mesurau. Gallai gohirio am ychydig ddyddiau olygu y gallai llawer mwy o fywydau gael eu colli.”
Dywedodd fod y penderfyniad i gyflwyno’r cyfyngiadau cloi yn seiliedig ar ddata o’r gwasanaeth profi, olrhain a diogelu.
“Fe ddaeth yn glir inni dros yr ychydig ddyddiau diwethaf ein bod yn gweld clystyrau’n codi sy’n gysylltiedig â thrigolion Caerdydd yn dal y feirws wrth ymweld ag ardaloedd cyfagos sydd â chyfraddau uchel o’r haint,” meddai. “Maen nhw wedyn yn dod â’r feirws yn ôl i’w cartrefi. Mae hefyd rai achosion sy’n deillio o ymwelwyr a gweithwyr i’r ddinas o’r ardaloedd cyfagos ac ymhellach i ffwrdd.”
Fe fydd y mesurau, a fydd yn cael eu gorfodi gan yr heddlu a’r awdurdod lleol, yn cael eu hadolygu’n ffurfiol ymhen pythefnos.
Cyfradd yr haint yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yw 46.1 o achosion i bob 100,000 o’r boblogaeth, gyda 3.4% o’r rheini sy’n cael eu profi yn cael canlyniad positif.