Mae prif weinidog newydd Japan wedi addo y bydd Gemau Olympaidd Tokyo yn digwydd yr haf nesaf “fel prawf fod y ddynoliaeth wedi curo’r pandemig”.

Wrth annerch Uwch-gynhadledd rithwir Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, dywedodd Yoshihide Suga y byddai ei wlad yn arwain adferiad y byd o’r coronafeirws.

“Yn haf y flwyddyn nesaf, mae Japan yn benderfynol o gynnal Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Tokyo fel prawf fod y ddynoliaeth wedi curo’r pandemig,” meddai.

“Byddaf yn parhau i ymdrechu’n ddiflino er mwyn eich croesawu i Gemau sy’n ddiogel.”

Roedd y Gemau Olympaidd i fod i gael eu cynnal eleni, ond cyhoeddodd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol a llywodraeth Japan ym mis Mawrth fod yn rhaid eu haildrefnu i “ddyddiad y tu hwnt i 2020 ond heb fod yn hwyrach na haf 2021”.