Mae myfyrwraig 18 oed a fu farw yn un o neuaddau preswyl Prifysgol Caerdydd wedi ei henwi.
Cafodd Megan Pollitt, o Rygbi yn Swydd Warwick, ei chanfod gan ei chyd-fyfyrwyr nos Sadwrn (Tachwedd 14) ar ôl llewygu yn neuaddau preswyl Llys Tal-y-bont.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ond bu farw nos Fawrth (Tachwedd 17).
Heddiw (Tachwedd 20), cyhoeddodd ei theulu deyrnged, gan ddweud ei bod yn “llawn breuddwydion a dyheadau”.
“Yn anffodus, bu farw Megan, Meg i’w theulu a ffrindiau, yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
“Roedd Meg yn rhoi ei hamser i bawb o’i chwmpas ac roedd hi bob tro yno i eraill. Roedd hi wedi dechrau astudio’r gyfraith yng Nghaerdydd yn ddiweddar ac roedd yn llawn breuddwydion a dyheadau.
“Ar ôl symud i ffwrdd roedd Meg yn dal i fwynhau cysylltiad agos â theulu a ffrindiau, gan rannu straeon a chwerthin drwy ymweliadau a galwadau.
“Byddwn yn colli ei gwên ddisglair hardd a’i hegni positif, a fyddai’n codi ysbryd unrhyw un.
“Roedd Meg wrth ei bodd yn darllen y clasuron, yn gwylio Anime ac yn gwrando ar gerddoriaeth yn ogystal â chefnogi tîm rygbi Wasps.
“Bydd Meg yn cael ei cholli a’i charu am byth gan ei Mam a Dad, chwaer, neiniau a theidiau a ffrindiau.”
Cyhuddo dyn o droseddau cyffuriau
Yn dilyn y farwolaeth, dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn cyhuddo dyn 23 oed o droseddau cyffuriau.
Ymddangosodd Lanoi Liddell yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher (Tachwedd 18) lle cafodd ei gadw yn y ddalfa.
Bydd yn sefyll ei brawf ar gyhuddiadau o gyflenwi cocên a chyffuriau dosbarth B, yn ogystal â chyflenwi MDMA a ketamine, yn Llys y Goron Caerdydd ar Ragfyr 16.