Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd system tair haen yn cael ei chyflwyno yng Nghymu wedi’r cyfan.

Yn hytrach eglurodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360 bod y Llywodraeth yn ystyried dewis a dethol a oes rheolau o wahanol haenau yn Lloegr yn addas i’w cyflwyno yng Nghymru.

Ychwanegodd mai dim ond un system byddai’n cael ei gweithredu yng Nghymru, yn hytrach na system gyda nifer o lefelau gwahanol.

Daw hyn yn dilyn dryswch wedi i’r Gweinidog Iechyd ddweud yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Llun, Tachwedd 23, bod Llywodraeth Cymru yn ystyried system debyg i’r un yn Lloegr a’r Alban.

Mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan gyflwyno system tair haen newydd yn Lloegr pan ddaw’r cyfyngiadau presennol yno i ben ar Ragfyr 2.

“Mae’n rhaid i ni gyrraedd tymor y Nadolig,” meddai Vaughan Gething.

“Mae hynny’n golygu efallai bydd rhaid i ni gyflwyno mesurau tebyg i’r Alban a Lloegr, mae’r system tair haen yn golygu bod modd iddyn nhw gydweithio a’i gilydd.

“Felly byddwn ni’n ystyried dros yr wythnos nesaf a oes angen i ni gael rheolau tebyg.

“Ac efallai bydd rhagor o newidiadau.”

Penderfynodd Cymru yn erbyn cyflwyno dull tair haen ym mis Hydref.

Galw am eglurder

Mae arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig Paul Davies wedi galw am eglurder.

“Mae’r cyfyngiadau wedi mynd o rai lleol, i rai cenedlaethol, i rai tair haen, mae angen bod yn gwbl glir nawr beth yw’r cynigion newydd yma,” meddai wrth BBC Cymru.

“Mae angen i ni weld sut bydd hyn yn gweithio a’r manylion am sut fydd system haenau yn cael ei fabwysiadu yma yng Nghymru.

“Rydym ni wedi galw am ddull lleol i fynd i’r afael â’r feirws, roedd cyfyngiadau tebyg yn Llanelli a Bangor yn ddiweddar yn amlwg yn gweithio.”

Achosion ar gynnydd ymhlith pobol ifanc

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething hefyd wedi rhybuddio fod tystiolaeth yn dangos fod cynnydd wedi bod mewn achosion o’r coronafeirws ymhlith pobol dan 25 mlwydd oed.

“Y peth sy’n peri’r pryder mwyaf yw’r twf mewn achosion ym mhobol dan 25 yng Nghymru,” meddai.

Dywedodd fod y gyfradd yma wedi gostwng yn ystod y clo dros dro ond ei fod bellach ar gynnydd eto.

Eglurodd fod hyn yn bryder i Lywodraeth Cymru gan fod patrwm y pandemig hyd yma yng Nghymru yn dangos bod yr haint yn dechrau ymhlith pobol ifanc cyn gweithio eu ffordd drwy’r gymuned a chyrraedd pobol hŷn.

Yn y cyfamser, mae cyfradd yr achosion ym mhobol dros 60 oed yn parhau i ostwng.

Dau gynllun newydd mewn cartrefi gofal

Amlinellodd y Gweinidog Iechyd y byddai mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno i ofalu am bobol mewn cartrefi gofal a chaniatáu ymweliadau.

Bydd cynllun gwerth £3 miliwn yn gweld 30 pod cychwynnol yn cael eu rhoi i leoliadau gofal cyn cyfnod y Nadolig, gyda chyfanswm o 100 i’w gosod yn ddiweddarach am gyfnod o chwe mis.

Bydd cynllun peilot i roi prawf Covid 20-munud hefyd yn dechrau mewn cartrefi gofal wythnos nesaf.

Dywedodd Vaughan Gerghing nad yw hanner cartrefi gofal yng Nghymru wedi cofnodi unrhyw achosion o coronafeirws ymhlith preswylwyr na staff.

“Heddiw, rydym yn cyhoeddi dau gynllun i helpu teuluoedd i weld ei gilydd yn saff –  bydd llawer ohonynt heb weld ei gilydd ers misoedd,” meddai.

“Rydyn ni’n gwybod pa mor ddinistriol y gall y coronafeirws fod mewn cartrefi gofal, fel y gwelsom yn Llangollen yn ddiweddar.”