Mae canolwr Cymru, Nick Tompkins, yn edrych ymlaen at groesawu Lloegr i Lanelli’r penwythnos nesaf.
Ar ôl chwarae i dîm dan 20 Lloegr a’r Saraseniaid mae’n gyfarwydd iawn â rhai o’r gwrthwynebwyr o ochr draw i Glawdd Offa.
“Rwy’n adnabod y chwaraewyr yn dda maen nhw bob amser yn gystadleuol, yn enwedig Faz (Owen Farrell),” meddai Tompkins.
“Wrth hyfforddi neu’n chwarae dydy’r chwaraewyr yma byth yn gadael i’w pennau ostwng.
“Dwi’n meddwl mai dyna sy’n gwneud rhai ohonyn nhw’n chwaraewyr gorau’r byd ac mae hynny’n glod iddynt.
“Mae nhw’r un mor gystadleuol ar y cae ac yn hyfforddi. Dyna sy’n eu gwneud nhw mor dda.”
Roedd Tompkins yn rhan o garfan y Saraseniaid a enillodd bedwar teitl Uwchgynghrair a thri Chwpan Pencampwyr Ewrop rhwng 2015 a 2019.
Mae’r Saraseniaid bellach wedi rhyddhau’r canolwr ar fenthyciad i ranbarth y Dreigiau yng Nghasnewydd.
Cydweithio yng nghanol y cae
Partner canol cae Tompkins ym muddugoliaeth Cymru yn erbyn Georgia, 18-0, oedd canolwr y Scarlets, Johnny Williams.
Chwaraeodd Williams, sy’n gymwys i Gymru drwy ei dad sy’n enedigol o’r Rhyl, i Loegr yn erbyn y Barbariaid mewn gêm heb gapiau y llynedd.
“Mae e’n dda yn dydy?” Meddai Tompkins.
“Mae’n anhygoel i chwarae gyag e. Mae’n ifanc, yn ysbrydoledig ac yn gweithio’n galed. Beth arall allwch chi ofyn amdano?
“Dyna i mi yw’r math o chwaraewr dw i eisiau chwarae tu allan iddo. Mae’n creu lle i chi.”
“Byddai’n wirion dweud nad oes rhaid i ni godi ein gêm, rydyn ni’n gwybod beth sy’n dod,” meddai Tompkins.
“Mae’n braf ennill yn erbyn Georgia, ond mae angen i ni herio ein hunain a chodi i’r lefel nesaf.
“Rydyn ni’n awyddus iawn i roi perfformiad da a chadw’r hyder o fewn y garfan i fynd. Dyna sydd ei angen arnom fel tîm, rydym yn gwybod ei fod yn bosib.”
Ar ôl colli i Iwerddon a churo Georgia mae Cymru yn drydydd yn Adran A Cwpan Cenhedloedd yr Hydref y tu ôl i Loegr ac Iwreddon.