Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi dweud wrth golwg360 y bydd yn “wych” cael herio Cymro arall, Tony Pulis, yn Stadiwm Liberty nos Fercher (Tachwedd 25).

Sheffield Wednesday yw’r gwrthwynebwyr, ac maen nhw newydd ddiswyddo wyneb cyfarwydd i’r Elyrch, y cyn-gapten a rheolwr Garry Monk ac wedi penodi Pulis o Gasnewydd yn ei le.

Dydy gemau rhwng dau reolwr o Gymru ddim yn digwydd yn aml, gyda saith rheolwr yn unig o Gymru ar hyn o bryd yn yr Uwch Gynghrair neu’r Gynghrair Bêl-droed.

Mae Steve Cooper yn dweud ei fod e’n edrych ymlaen at y profiad.

“Dw i newydd feddwl am hyn – mae’n wych!” meddai wrth golwg360.

“Mae llawer o bethau da yn digwydd yn y byd pêl-droed yng Nghymru ar hyn o bryd, yn enwedig gyda’r tîm cenedlaethol.

“Bydd hi’n wych pe bai yna stori i’w hysgrifennu am ddau reolwr o Gymru’n herio’i gilydd am driphwynt.

“Mae Tony yn llawer mwy profiadol na fi, ond yr hyn dw i’n ei wybod ar ôl bod yn gwneud hyn am ychydig, yw fod rhaid i chi ganolbwyntio ar eich tîm eich hun a cheisio paratoi pawb i chwarae eu gêm nesaf.”

Parch at ei gilydd

Tra bod Tony Pulis yn cydnabod fod gwaith Steve Cooper yn Abertawe wedi bod yn “rhagorol”, mae Cooper hefyd yn dweud bod ganddo fe barch mawr at Pulis yn sgil ei yrfa hir yn y gêm.

Tra mai hon yw swydd gyntaf Cooper, mae Pulis newydd ddechrau ar ei unfed swydd ar ddeg yn rheolwr.

Yn gyn-amddiffynnwr, dechreuodd gyrfa Pulis fel chwaraewr yn Bristol Rovers yn 1975, y flwyddyn pan gafodd Cooper ei eni.

Tra bo’r Pulis mwy profiadol wedi cael cyfnodau’n rheoli Bournemouth, Gillingham, Bristol City, Portsmouth, Stoke (ddwywaith), Plymouth, Crystal Palace, West Brom a Middlesbrough, mae Cooper yn ei swydd clwb cyntaf ar ôl bod yn hyfforddwr timau ieuenctid Wrecsam a Lerpwl ar ôl bod yn chwarae yng Nghynghrair Cymru.

“Dw i ddim wedi dod ar ei draws ei yn nhermau hyfforddi na rheolwr, ond dw i’n ei nabod e ac wedi cael sawl sgwrs gyda fe dros y 12 mis diwethaf,” meddai Steve Cooper.

“Mae e’n foi da.

“Ar ôl trio bod yn brif hyfforddwr neu reolwr am dipyn nawr, dw i’n parchu unrhyw un sydd wedi rhoi cynnig arni, a dw i’n parchu unrhyw un yn fawr sydd wedi bod ynddi ers amser hir oherwydd mae’n swydd unigryw, yn sicr, yn enwedig gyda’r emosiynau rydych chi’n mynd drwyddyn nhw.

“Felly mae gyda fi barch mawr ato fe, ei amser yn y gêm a’r hyn mae e wedi’i gyflawni.

“Dw i’n edrych ymlaen at ei groesawu fe i’r Liberty a cheisio ennill y gêm.

“Y cyfan sydd rhaid i ni ei wneud yw cofio hyn i gyd, parchu’r gwrthwynebwyr ond canolbwyntio arnon ni ein hunain a’r hyn rydyn ni’n credu sydd ei angen er mwyn ennill y gêm.

“Maen nhw’n dîm profiadol hefyd, mae’n mynd i fod yn gêm anodd ond yn un rydyn ni’n edrych ymlaen ati.”