Mae cyn-brop Cymru a’r Llewod, Ray Prosser, wedi marw yn 93 oed.
Enillodd Prosser 22 o gapiau dros Gymru rhwng 1956 a 1961, a bu hefyd yn teithio gyda’r Llewod yn 1959, gan ddechrau pan enillon nhw’r pedwerydd prawf yn erbyn Seland Newydd.
Roedd hefyd yn un o’r hyfforddwyr mwyaf llwyddiannus yn hanes rygbi clwb Cymru, gan arwain Clwb Rygbi Pont-y-pŵl – yn y dyddiau cyn cynghreiriau – i bum pencampwriaeth answyddogol Cymru, saith teitl ‘Merit Table’ a Chwpan Cymru yn ystod cyfnod o 18 mlynedd.
Bu Prosser yn goruchwylio ac yn datblygu gyrfaoedd nifer o chwaraewyr rhyngwladol Cymru, gan gynnwys rheng flaen enwog Pont-y-pŵl, sef Charlie Faulkner, Bobby Windsor a Graham Price, a chwaraeodd gyda’i gilydd mewn 19 o brofion, yn ogystal â chwaraewyr fel Eddie Butler a David Bishop.
Mewn datganiad, dywedodd Clwb Rygbi Pont-y-pŵl: “Gyda thristwch a dinistr aruthrol y gall Clwb Rygbi Pont-y-pŵl gadarnhau marwolaeth Ray Prosser.
“Heb amheuaeth, bydd Ray yn cael ei ystyried am byth fel y ffigwr mwyaf dylanwadol yn hanes Clwb Rygbi Pont-y-pŵl.
“Mae ein meddyliau gyda theulu Ray yn ystod y cyfnod trist hwn.”