Roedd siom i’r Scarlets wrth iddyn nhw golli o 26-24 oddi cartref yn Ulster, a gipiodd bwynt bonws yn y PRO14.

Sgoriodd Rob Lyttle a Stewart Moore geisiau’r Gwyddelod wrth i Paul Asquith groesi i’r Scarlets, cyn i Sean Reidy roi Ulster ar y blaen cyn yr egwyl.

Sgoriodd Ryan Conbeer a Steff Evans geisiau i ddod â’r Scarlets yn ôl o fewn dau bwynt cyn i Kieran Treadwell a Phil Price groesi i selio’r fuddugoliaeth.

Methodd y Scarlets â manteisio’n llawn ar ddyn ychwanegol ar adegau gwahanol yn y gêm, wrth i Treadwell a Matt Faddes ill dau gael eu hanfon i’r cell cosb.

Mae’r Scarlets yn drydydd yn y tabl erbyn hyn.