Sgoriodd Scott Penny ddau gais hwyr wrth i Leinster roi crasfa o 40-5 i’r Gleision yn y PRO14 yn stadiwm RDS.
Mae’r blaenasgellwr bellach wedi sgorio pum cais y tymor hwn, ac fe gafodd ei ddisodli gan Michael Silvester, a sgoriodd ei gais cyntaf i’r clwb.
Wrth ennill, fe wnaeth Leinster efelychu record y gystadleuaeth gyda seithfed buddugoliaeth bwynt bonws o’r bron.
Sgoriodd Dave Kearney gais ar ôl 36 eiliad – yr ail gyflymaf erioed i’r rhanbarth yn y PRO14 – ac roedden nhw ar y blaen o 19-5 ar yr egwyl.
Sgoriodd Jimmy O’Brien ac Aled Summerhill gais yr un i’w timau tua hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf, gyda James Tracy hefyd yn croesi cyn yr egwyl.
Amddiffynnodd y Gleision yn gadarn ond croesodd Penny ddwywaith cyn i Silvester sgorio’i gais yntau o gic Harry Byrne ar ôl 76 munud.
Manylion y gêm
Roedd y Gleision ar ei hôl hi yn y funud agoriadol pan ruthrodd y canolwr Ciaran Frawley heibio i Ben Thomas i roi cais i Dave Kearney yn y gornel.
Ciciodd Harry Byrne y trosiad cyn trosi cais y cefnwr Jimmy O’Brien, oedd wedi croesi ar ôl cic a chwrs a drechodd amddiffyn y Gleision.
Ond daeth cais oddi ar ymosodiad cynta’r Gleision ar ôl 16 munud, pan groesodd Aled Summerhill yn y gornel.
Methodd Harry Byrne â chic gosb cyn i O’Brien orfodi lein hwyr, a phac Leinster yn llwyddo i yrru’r bachwr James Tracy dros y llinell gais.
Er i’r Gleision atal dau gais i Leinster, cryfhau wnaeth y Gwyddelod wrth i Scott Penny groesi yn y pen draw ar ôl 65 munud, ac eto bum munud yn ddiweddarach.
Daeth yr ergyd olaf yn niwedd y gêm wrth i Silvester groesi i’w gwneud hi’n 38-5, a’r maswr Harry Byrne yn trosi.