Mae gwefan HistoryPoints wedi creu taith hanesyddol, ryngweithiol o amgylch Bethesda, sy’n galluogi ymwelwyr a phreswylwyr ymddiddori yn hanes yr ardal – a hynny o gledr eu llaw.
Mae lansiad y gylchdaith ‘Llechi a Streiciau ym Methesda’ yn coffau 120 mlynedd ers cychwyn Streic Fawr y Penrhyn (1900-1903).
Y daith
Mae’r daith yn cychwyn wrth dwll y chwarel, lawr y stryd fawr ac yn gorffen ger yr hen reilffordd yn Felin Fawr.
Ar hyd y siwrne, mae modd defnyddio cod QR i ganfod hanes gweddillion yr hen ysbyty, bythynnod y chwarelwyr yn Caerberllan a cherflun o chwythwr corn y chwarel yn Llys Dafydd.
“Annog y dynion ac yn sefyll gyda nhw bob cam o’r ffordd”
Er bod llawer wedi ei ysgrifennu eisoes ynglŷn â’r Streic Fawr, o’r broses ymchwilio daeth agweddau eraill yn fwy amlwg, meddai’r hanesydd Dr Hazel Pierce.
“Roedd yn rhaid i gynifer o’r dynion symud i ffwrdd i ddod o hyd i waith yn rhywle arall, felly roedd y menywod yn flaenllaw iawn yn y protestiadau,” meddai.
“Yn aml, roeddwn yn darllen adroddiadau o ddigwyddiadau ble roedd yr heddlu wedi cael eu galw i dorfeydd, oedd yn cynnwys merched a phlant yn bennaf.”
Mae’r daith ryngweithiol o amgylch Bethesda yn arwain at dy Elizabeth Williams, merch ifanc oedd yn rhan o’r protestiadau a chafodd ei harestio a’i rhoi o flaen y llys, fel esiampl i fenywod eraill.
“Roedd digwyddiad arall yn yr orsaf rheilffordd,” meddai’r hanesydd, “lle bu torf enfawr, a cherddodd un dyn yn fygythiol tuag at weithwyr.
“Ni chafodd ei ddal yn ôl gan yr heddlu ond gan ddynes o’r dorf.”
Dywedodd bod rhai o’r merched wedi eu dyfynnu yn dweud bod gwell ganddyn nhw lwgu nag i’r dynion fynd yn ôl i’w gwaith.
“Roedden nhw’n annog y dynion,” meddai, “ac yn sefyll gyda nhw bob cam o’r ffordd”
“Enghraifft ryfeddol o’r hyn wnaed gan ferched”
“Fel un sydd yn byw yn Nyffryn Ogwen ac sydd yn gweithio yn yr Amgueddfa Lechi, rydw i’n croesawu’r daith ac unrhyw gyfle i gynyddu ymwybyddiaeth o’r Streic Fawr a’i ddylanwad ar y gymdeithas,” meddai Dr Dafydd Roberts, Ceidwad Yr Amgueddfa Lechi.
“Un arwyddocâd o hyn yw swyddogaeth merched yn y gymdeithas,” meddai.
“‘Da ni’n dueddol o feddwl am y streiciau fel rhywbeth roedd dynion yn ei wneud ond dyma i chi enghraifft ryfeddol o’r hyn wnaed gan ferched yn uniongyrchol ac yn llai uniongyrchol.
“Pe bai unrhyw un sy’n credu bod merched yn ddi-rym yn y gymdeithas honno – mae’r streic yn dangos nad ydi hynny’n wir.”
“Diwydiant llechi wedi cael effaith mawr ar ddatblygiad y pentref”
“’Da ni ‘di bod yn gweithio ar y daith ers rhai blynyddoedd,” meddai Rhodri Clark, golygydd y wefan HistoryPoints.
“Yn amlwg ym Methesda, mae’r diwydiant llechi wedi cael effaith mawr ar ddatblygiad y pentref,” meddai, “yn ogystal â’r straeon ynglŷn â’r streic fawr ac effaith hynny ar y gymuned.”
Dywedodd ei fod yn gobeithio bydd y daith yn denu twristiaid sy’n ymweld a ZipWorld i dreulio amser ym Methesda.
Y chwarel yn rhan o fywyd y pentref
“Dwi’n hynod o falch o unrhyw ddatblygiad sydd yn cofio’r streic mewn unrhyw ffordd,” meddai Walter Williams, sy’n byw yn yr ardal.
“Ma’ Bethesda wedi adeiladu ar y chwarel mwy neu lai – mae pobl yn gweithio yn y chwarel ers canrifoedd – mae hi’n rhan o fywyd y pentref.
“’Da’ ni isio cofio’r Streic Fawr, oedd wedi amharu ar gymaint o deuluoedd – amser difrifol iawn.”