Ddechrau mis Tachwedd dewiswyd 15 person ifanc o ardaloedd Arfon a Cheredigion i gymryd rhan mewn cwrs newydd sbon i feithrin gohebwyr lleol…

Nod cwrs Gohebwyr Ifanc Bro360 oedd buddsoddi yn ein pobol ifanc ac yn ein bröydd, gan roi’r hyder, y gallu, a’r awydd i’r criw o ddarpar-ohebwyr fynd allan i adrodd y straeon sy’n bwysig i’w bro.