Ro’n i yn yr ysbyty yn gynharach eleni, ambell wythnos cyn i’r ail don wirioneddol daro ac i’r cyfnod atal Cymreig ddod i rym. Yn y gwely drws nesa’ i mi dros y pum diwrnod hwnnw yr oedd Alun o Bontypridd. Wel, am bum diwrnod mi chwarddais i fel diawl gwirion diolch i Alun. Roedd o’n cael hwyl – hyfryd o amhriodol weithiau – am ben ambell un o’r cleifion eraill. Roedd o’n rhegi’n ddi-baid a ddim yn hapus o gwbl pan gurodd Lloegr wlad Belg yng Nghwpan y Cenhedloedd (“they’s bloody world beate