Mi ddechreues i feddwl am y golofn yma am ddau o’r gloch y bore.

Er fy mod i dal gartre ar fy mhen fy hun, yn gweithio, byw a bod yn y fflat, yn mentro allan yn anaml iawn, dw i’n fwy prysur nac erioed – a fy meddwl fel chwyrligwgan sy’n hynod o anodd i’w stopio.

Gyda chymaint o bwyslais y dyddie yma ar ‘ymwybyddiaeth’, ar fyfyrio a hunanofal – mae rhywbeth ynddof fi’n styfnig ymwrthod â’r syniad o lonyddwch, a dw i’n cael fy nenu yn lle gan ein trydydd sbort cenedlaethol: “cadw’n brysur”.