Fe fydd bywyd a gwaith y telynor byd-enwog, Osian Ellis, yn cael ei ddathlu mewn gŵyl ryngwladol, wrth iddo agosáu at ei 90 oed.
Ddechrau mis Ebrill, fe fydd pedwaredd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yn cael ei chynnal yn y Galeri yng Nghaernarfon, ac mae disgwyl y bydd 100 o delynorion o wledydd megis Siapan, yr Unol Daleithiau a Rwsia yn bresennol.
Fe fydd yr ŵyl yn cychwyn gyda’r gyngerdd agoriadol, ‘OSIAN’, ar Ebrill 1 a fydd yn cynnwys cerdd newydd sy’n cael ei chyflwyno gan y Prifardd Mererid Hopwood, a pherfformiadau gan artistiaid offerynnol Cymraeg a fydd yn cyflwyno cerddoriaeth er clod i Dr Osian Ellis.
Yn ôl Elinor Bennet, cyfarwyddwraig yr Ŵyl, mae Dr Osian Ellis yn berson “eiconig” ac wedi gwneud “cyfraniad aruthrol”.
“Rydw i wrth fy modd ein bod ni’n dathlu pen-blwydd fy mentor, Osian Ellis, yn 90 oed a’n bod ni’n mwynhau dathlu ei waith a’r gerddoriaeth y mae wedi’i chreu yn ystod ei yrfa hir,” meddai.
Gyrfa
Fe gafodd Osian Ellis ei eni yn Ffynnongroyw yn Sir y Fflint yn 1928, a bu’n chwarae’r delyn ers yn ifanc iawn.
Ar ôl ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1943, fe gafodd ysgoloriaeth yn yr Academi Gerdd Frenhinol yng Nghaerdydd, lle bu’n Athro’r Delyn rhwng 1959 a 1986.
Bu hefyd yn cydweithio â’r cyfansoddwr enwog, Benjamin Britten, ac fel aelod o Gerddorfa Wally Stott, bu’n chwarae ar y rhaglen radio, The Goon Show, a oedd yn cynnwys comedïwyr fel Spike Milligan, Harry Seacombe a Peter Sellers.
Cyngerdd fawreddog i gloi
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn y Galeri yng Nghaernarfon o ddydd Sul, Ebrill 1, i nos Wener, Ebrill 20, gyda chyngerdd a fydd yn cynnwys perfformiadau gan Bryn Terfel.