Mae un o gyn-Gyfarwyddwyr Cynnwys S4C wedi ei benodi’n gyfarwyddwr ar Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.
Bu Dafydd Rhys, sy’n wreiddiol o Ddyffryn Aman, yn Gyfarwyddwr Cynnwys S4C rhwng 2012 a 2016, lle bu’n gyfrifol am gomisiynu’r rhaglen dditectif Y Gwyll – a gafodd ei ffilmio o gwmpas ardal Aberystwyth.
Ar hyn o bryd mae Dafydd Rhys yn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru, ac fe fydd yn dechrau ar ei swydd newydd ddydd Llun nesaf.
“Adeiladu ar seiliau cadarn”
“Mae cael y cyfle yma i arwain Canolfan sydd wedi gwneud cyfraniad mor werthfawr i fywyd diwylliannol Aberystwyth a’r byd ehangach yn anrhydedd,” meddai Dafydd Rhys.
“Gan adeiladu ar seiliau cadarn, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm o staff ymroddedig wrth i ni gychwyn ar bennod newydd gyffrous.
“Mae ein cenhadaeth yn un glir – i ddatblygu ymhellach enw da, perthnasedd a phwysigrwydd y sefydliad eiconig hwn i bobl Aberystwyth a Chymru.”