Mae degau o ddisgyblion yng Ngwynedd a Môn wedi dod ynghyd yr wythnos hon i ddathlu Dydd Miwsig Cymru.

Cafodd diwrnod o ddathliadau eu cynnal yng Nghaernarfon ar gyfer disgyblion uwchradd dros y penwythnos diwethaf, a hynny dan arweiniad yr artistiaid Marged Gwenllian, Osian Cai, Endaf a Tesni Hughes.

Fel rhan o’r dathliad, cafodd y disgyblion gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb, ynghyd â chydweithio â’r cerddorion er mwyn cyfansoddi eu cerddoriaeth eu hunain.

Drwy gydol yr wythnos, roedd Llwyddo’n Lleol 2050 a Menter Iaith Môn wedi bod yn trefnu disgos mewn ysgolion cynradd hefyd.

‘Cynnig rhywbeth newydd’

Prif bwrpas y dathliadau oedd cynnig “rhywbeth newydd i bobol ifanc yr ardal sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth”, meddai Jade Owen, Swyddog Prosiect Llwyddo’n Lleol 2050.

“Mi ydan ni’n ymwybodol iawn o’r dalent sydd o’n hamgylch ni ac yn awyddus i fagu potensial y dalent yma er mwyn rhoi sail gadarn iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.

“Rydyn ni hefyd yn awyddus iawn i chwalu unrhyw stigma sydd gan bobol ifanc yr ardal bod yn rhaid symud i ffwrdd i ddinasoedd fel Llundain a Chaerdydd os ydyn nhw am fod yn llwyddiannus o fewn y maes.

“Wrth roi’r cyfle i’r bobol ifanc yma fod yn rhwydweithio efo artistiaid sydd yn llwyddiannus o fewn y sîn yng ngogledd Cymru, rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn eu hysbrydoli nhw.”

‘Magu diddordeb’

Dywed Elen Hughes, Prif Swyddog Menter Iaith Môn, eu bod nhw’n falch iawn o allu cefnogi’r dathliadau.

“Mae Mentrau Iaith ar hyd a lled y wlad yn cynnal digwyddiadau i ddathlu Dydd Miwsig Cymru ac mi ydan ni’n falch o allu cefnogi’r digwyddiad yma fel Menter Iaith yn Ynys Môn,” meddai.

“Fel Menter sydd yn trefnu digwyddiadau o amgylch cerddoriaeth yn aml, boed hyn yn wyliau fel Gŵyl Cefni neu’n sesiynau Bocswn [sesiynol cerddorol am ddim] gyda phobl ifanc yr ardal, mi ydan ni’n ymwybodol iawn pa mor fanteisiol ydi cerddoriaeth wrth ddod â phobol at ei gilydd i gymdeithasu yn Gymraeg.

“Ein gobaith wrth drefnu digwyddiadau fel hyn ydi ein bod ni’n magu diddordeb ein plant a phobol ifanc ac yn gallu cynnig gwahanol brofiadau cerddorol trwy’r Gymraeg iddyn nhw.”