Mae tair o ardaloedd heddlu Cymru ymhlith y rhai gwaethaf yng Nghymru a Lloegr at ei gilydd am oryrru.

Swydd Lincoln sydd ar y brig ar gyfer nifer y troseddau goryrru y pen, yn ôl ystadegau Cymdeithas Ryngwladol y Gyrwyr, sy’n gosod ardal De Cymru yn ail, Gogledd Swydd Efrog yn drydydd, Gogledd Cymru’n bedwerydd, tra bod Dyfed-Powys yn bumed.

Roedd yr astudiaeth yn seiliedig ar ddata gafodd ei gasglu rhwng 2010 a 2020.

5.43 ar gyfer pob 1,000 o’r boblogaeth oedd y ffigwr yn Swydd Lincoln, gyda 4,164 o droseddau bob blwyddyn ar gyfartaledd ond cyfanswm o 6,734 yn 2020.

5.23 oedd y ffigwr cyfatebol yn ardal Heddlu’r De, a chyfanswm o 7,030 o droseddau o fewn poblogaeth o 1.34m o bobol.

Roedd ffigurau’r ardal heddlu ar eu huchaf yn 2018 (8,894), mwy na thair gwaith y ffigwr yn 2010 (2,603).

4.54 oedd y ffigwr yng Ngogledd Swydd Efrog (cyfartaledd o 3,774 o droseddau mewn poblogaeth o 831,600).

Yn ardal Heddlu’r Gogledd, 4.34 oedd y ffigwr, gyda 3,054 o droseddau mewn poblogaeth o 703,400.

O ran Heddlu Dyfed-Powys, roedd yna gyfartaledd o 4.33 ym mhob 1,000 o’r boblogaeth.

Ymhlith yr ardaloedd â’r nifer leiaf o droseddau roedd Swydd Derby, Durham, Wiltshire a Llundain.

“Mae’r astudiaeth hon yn cynnig mewnwelediad rhyfeddol i’r lleoliadau lle mae gyrwyr yn fwyaf tebygol o roi eu traed ar y sbardun, a lle gallai’r nifer fwyaf o ddamweiniau ddigwydd o ganlyniad,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas y Gyrwyr Rhyngwladol.

“Bydd yn ddiddorol gweld a yw’r rhestr yma’n newid dros y blynyddoedd i ddod wrth i fwy o gynlluniau gael eu cyflwyno ledled y wlad i ostwng terfynau cyflymder mewn ymgais i dorri i lawr ar dorri’r terfyn cyflymder.”