Ar gyflymder presennol y newid, bydd menywod yn aros degawdau am gydraddoldeb, yn ôl Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil elusen Chwarae Teg


Ers 2019, mae Chwarae Teg wedi llunio adroddiad blynyddol, Cyflwr y Genedl, gan gasglu ystadegau i fesur ein cynnydd tuag at Gymru sy’n gyfartal o ran rhywedd.

Yng Nghymru, mae gennym ymrwymiad hirsefydlog i gydraddoldeb gan y rhai sydd mewn swyddi dylanwadol. Rydym yn croesawu hyn yn fawr iawn ac yn gobeithio y bydd yn parhau. O ystyried ein huchelgeisiau i fod yn genedl fwy cyfartal, ffyniannus a gwydn, mae’n hanfodol ein bod ni’n cymryd amser i ystyried y dystiolaeth a gofyn i ni’n hunain a ydym yn gwneud cynnydd, ac a yw’r cynnydd hwnnw’n digwydd yn ddigon cyflym.

Gan fod eleni’n nodi ein pumed adroddiad Cyflwr y Genedl, roeddem am gymryd y cyfle i edrych ar ein cynnydd dros y pum mlynedd diwethaf. Pan gyhoeddwyd ein hadroddiad cyntaf ym mis Ionawr 2019, fydden ni byth wedi gallu rhagweld yr heriau fyddai’n ein hwynebu dros y pum mlynedd nesaf. Roedd pandemig byd-eang, a roddodd bwysau di-ben-draw ar ein gwasanaethau cyhoeddus, wedi cyfyngu ein bywydau o ddydd i ddydd, mewn modd a oedd y tu hwnt i’r hyn y byddem byth wedi’i ddychmygu, a chollodd gormod o bobol eu bywydau yn ei sgil hefyd. Rydym bellach yn wynebu argyfwng costau byw, gyda’r chwyddiant gwaethaf ers dros ddegawd yn gwthio cost nwyddau sylfaenol hyd yn oed yn uwch, tra bod cyflogau’n aros yn eu hunfan.

Er gwaethaf y cyfnod digynsail hwn, mae un peth wedi aros yn gyson – anghydraddoldeb. Mae’r cynnydd tuag at gydraddoldeb rhywedd wedi bod yn ymylol ar y gorau, ac mae bylchau sylweddol o ran rhywedd yn parhau. A dweud y gwir, ar y cyflymder mae’r newid yn digwydd ar hyn o bryd, bydd yn rhaid i ferched yng Nghymru aros degawdau am gydraddoldeb. Bydd y menywod mwyaf ymylol – menywod o leiafrifoedd ethnig, menywod anabl, menywod LHDTC+ a menywod ar incwm isel – yn aros hyd yn oed yn hirach.

Er bod y bwlch cyflog ar sail rhywedd wedi lleihau ychydig ers 2019, ac er bod mwy o fenywod mewn cyflogaeth, mae menywod yn dal i fod yn llai tebygol o fod mewn gwaith na dynion, yn fwy tebygol o fod allan o’r farchnad lafur oherwydd cyfrifoldebau gofal ac yn fwy tebygol o ennill llai na dynion. Mae’r canlyniadau hyn hyd yn oed yn waeth i fenywod sydd â nodweddion gwarchodedig ychwanegol.

Erbyn hyn mae cyfran yr Aelodau Senedd a’r cynghorwyr benywaidd yn uwch – ond mae hyn yn dal i fod yn llawer is na 50%, ac yn y Senedd rydyn ni wedi cymryd camau am yn ôl, gyda llai o ASau benywaidd nag yn 2019. Mae llawer o waith i’w wneud er mwyn sicrhau ein bod yn ethol menywod o gefndiroedd amrywiol ar bob lefel yn ein gwleidyddiaeth.

Yn anffodus, mae lefel risg menywod yn ymddangos yn ddigyfnewid i raddau helaeth. Mae’r data yn arbennig o heriol o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ond yr hyn y gallwn ei weld yw nad ydyn ni’n gwneud fawr ddim cynnydd o ran dileu trais yn erbyn menywod, a bod gwasanaethau arbenigol dan bwysau aruthrol yn wyneb y galw cynyddol.

Mae gan yr anghydraddoldeb hwn goblygiadau enbyd. Menywod oedd yn y sefyllfa fwyaf bregus oherwydd rhai o effeithiau gwaethaf y pandemig, a nawr maen nhw mewn sefyllfa debyg gyda’r argyfwng costau byw. Dydy’r bregusrwydd hwn ddim yn anochel, mae’n ganlyniad uniongyrchol i’r anghydraddoldeb parhaus y mae ein hadroddiadau Cyflwr y Genedl yn tynnu sylw ato. Os na fyddwn yn gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn gynt, bydd menywod yn cael eu rhoi mewn sefyllfa fregus eto pan ddaw argyfyngau eto yn y dyfodol.

Ni fydd unrhyw unigolyn yn gallu mynd i’r afael â’r materion cymhleth a rhynggyswllt niferus sy’n cynhyrchu’r anghydraddoldeb hwn. Mae angen i ni fod yn genhadaeth wirioneddol genedlaethol, lle mae’r llywodraeth, busnes ac unigolion i gyd yn chwarae rhan weithredol wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.

Mae’n rhaid i ni wneud gwell penderfyniadau a gwell polisïau, er mwyn rhoi ystyriaeth briodol i anghenion amrywiol menywod. Yn 2019, fe wnaethom amlinellu argymhellion manwl am sut y gellir cyflawni hyn yn yr adroddiad Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd, Gwneud Dim Dweud. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud dechrau da o ran cymryd camau i weithredu ar yr argymhellion hyn, mae gennym Unedau Data Cydraddoldeb newydd, cynlluniau peilot ar waith ar gyfer cyllidebu ar sail rhywedd a phrif ffrydio cydraddoldeb. Ond mae’n rhaid gweithredu rhagor o’r argymhellion ar frys er mwyn sicrhau bod gan bob rhan o Lywodraeth Cymru’r adnoddau i ymgorffori cydraddoldeb yn eu gwaith o ddydd i ddydd a bod llywodraeth leol a’r sector cyhoeddus ehangach yn cael eu cefnogi i wneud newidiadau hefyd.

Bydd hefyd angen i’r Llywodraeth wneud gwahanol benderfyniadau ynglŷn â ble i fuddsoddi arian a pha feysydd o bolisi cyhoeddus i’w blaenoriaethu. O’r data, mae dau fater yn dal i fod yn hanfodol os ydym am wneud cynnydd tuag at Gymru sy’n gyfartal o ran rhywedd – gofal plant a gwaith di-dâl, ac aflonyddu rhywiol, cam-drin a thrais.

Yn y tymor hir, mae’n rhaid i ni anelu at gynnig gofal plant am ddim. Yn y tymor byr i’r tymor canolig, mae angen i ni wneud penderfyniadau sy’n ein rhoi ar y trywydd cywir i gyrraedd y nod hwn. Rydym yn croesawu ehangu cymorth gofal plant i’r rheiny mewn addysg a hyfforddiant ac i rieni plant dwy oed, ond mae angen i ni gymryd camau pellach a hynny’n gyflymach.

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal i fod yn endemig yn ein cymdeithas. Nid yw menywod yn teimlo’n ddiogel yn eu bywydau o ddydd i ddydd ac mae methiannau yn ein system gyfiawnder. Mae angen mabwysiadu dull newydd o gynllunio ein mannau cyhoeddus a’r amgylchedd adeiledig, un sy’n ystyried diogelwch a chynhwysiant. Ac mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fynd ati ar frys i fynd i’r afael â’r problemau hirsefydlog yn ein system gyfiawnder.

Nid llywodraeth yn unig sy’n gorfod gweithredu. Mae gan fusnesau rôl bwysig, wrth ystyried sut maent yn trefnu a strwythuro gwaith, a’r polisïau ac arferion sydd eu hangen i fynd i’r afael â gwahaniaethu a chreu gweithleoedd gwirioneddol gynhwysol. Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweld yn glir beth sy’n digwydd pan nad yw diwylliant y gweithle yn cael ei gymryd yn ddigon difrifol. Ni ddylai’r un fenyw deimlo’n anniogel neu’n anghyfforddus yn eu gweithle.

Yn olaf, rhaid i’r gymdeithas sifil edrych ar sut rydym yn tyfu a chydweithio ym maes cyllidebu, sy’n newid o hyd, er mwyn i ni allu rhoi cefnogaeth effeithiol i grwpiau ymylol, ymgyrchu dros newid a mynnu bod pobol mewn swyddi dylanwadol yn atebol. Nid her fach yw hon, am ei bod yn tynhau ein capasiti ymhellach fyth, ond mae’n her sy’n rhaid ei hwynebu.

Mae Cymru’n wynebu heriau a chyfleoedd unigryw. Mae gennym sylfeini cryf i adeiladu arnynt, ond mae’n rhaid i ni weld newid gwirioneddol yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud, a sut rydyn ni’n ei wneud. Ni allwn fforddio parhau fel yr ydym, mae cyflymder y newid yn rhy araf.

Bydd Cymru fwy cyfartal o fudd i bawb. Bydd yn cyfrannu at Gymru fwy llewyrchus, Cymru fwy gwydn a Chymru iachach. Mae ein galwad i weithredu’n parhau, i bawb sydd mewn swyddi grym, droi geiriau cynnes ar waith, a chwarae rhan yn darparu’r Gymru gyfartal rhwng y rhywiau yr ydym i gyd yn ei haeddu.

Nid dyma’r tro cyntaf i Chwarae Teg gyflwyno’r neges hon. Rydym yn dal i obeithio mai hwn fydd y tro olaf.