Mae Chwarae Teg, yr elusen cydraddoldeb rhywedd, yn galw am weithredu i gyflymu’r newid er mwyn gwneud Cymru’n genedl gyfartal o ran rhywedd.

Yn eu hadroddiad blynyddol ar Gyflwr y Genedl, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Chwefror 6), mae Chwarae Teg yn amlinellu’r cynnydd a wnaed yng Nghymru o ran dod yn genedl gyfartal o ran rhywedd, ac yn archwilio profiadau menywod yn yr economi, eu cynrychiolaeth a’r rhai sydd mewn perygl.

Fel rhan o rifyn eleni, mae Chwarae Teg hefyd wedi cynhyrchu Adolygiad Pum Mlynedd yn olrhain tueddiadau dros y pum mlynedd diwethaf.

Ers y Cyflwr y Genedl cyntaf yn 2019, prin iawn oedd y rhai fyddai wedi gallu rhagweld heriau pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw.

Anghydraddoldeb

Mae effaith lawn yr argyfyngau hyn yn dal yn aneglur ond mae un ffactor wedi bod yn gyson dros y pum mlynedd diwethaf, meddai’r elusen, sef anghydraddoldeb.

Er bod cynnydd wedi bod mewn rhai meysydd, mae’r cynnydd hwn yn “eithaf ymylol” mewn sawl ffordd, yn ôl yr elusen, sydd yn dal i aros am weld newid gwirioneddol mewn sawl maes.

Ers 2019, rydym wedi gweld y bwlch cyflog ar sail rhywedd yn cau ychydig i 11.3% ar hyn o bryd.

Mae mwy o fenywod bellach mewn cyflogaeth, mae cyfran lai yn segur yn economaidd am eu bod yn gofalu am y teulu neu’r cartref, ac mae cyfran y menywod sy’n gweithio’n rhan amser wedi lleihau.

Ond mae menywod yn dal i fod yn llai tebygol o fod mewn gwaith na dynion, yn fwy tebygol o fod allan o’r farchnad lafur oherwydd cyfrifoldebau gofalu ac ennill llai na dynion.

I fenywod sydd â nodweddion gwarchodedig ychwanegol, mae’r canlyniadau hyn hyd yn oed yn waeth.

Yn anffodus, mae lefel risg menywod yn ymddangos yn ddigyfnewid i gryn raddau.

Mae cael darlun cywir o ba mor gyffredin yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal i fod yn her.

Ond yr hyn y gallwn ei weld yw nad ydym yn gwneud fawr iawn o gynnydd o ran dileu trais yn erbyn menywod, ac mae gwasanaethau arbenigol dan bwysau aruthrol yn wyneb y galw cynyddol a’r argyfwng costau byw.

Eleni, caiff Cyflwr y Genedl ei gyhoeddi yng nghanol yr argyfwng costau byw. Argyfwng sydd eisoes yn effeithio’n anghymesur ar fenywod, yn enwedig y rhai o leiafrifoedd ethnig, menywod anabl a menywod ar incwm isel.

Dydy hyn ddim yn anochel, ond yn ganlyniad uniongyrchol yr anghydraddoldeb parhaus y mae adroddiad Cyflwr y Genedl yn tynnu sylw amlwg ato.

Unwaith eto, mae Cyflwr y Genedl yn dangos sut mae nodweddion fel rhywedd, hil, rhywioldeb, anabledd, dosbarth, oedran a ffydd yn rhyngweithio’n aml i greu profiadau niferus o anfantais.

Er mwyn creu Cymru fwy cyfartal, mae angen i ni ganolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf ar y cyrion yn gyntaf; y menywod sy’n wynebu’r rhwystrau a’r anfantais fwyaf.

Ni fydd unrhyw un actor yn gallu mynd i’r afael â’r materion cymhleth a rhyngberthynol niferus sy’n creu’r anghydraddoldeb hwn.

Mae angen iddi fod yn genhadaeth wirioneddol genedlaethol, lle mae’r llywodraeth, byd busnes ac unigolion i gyd yn chwarae rhan weithredol o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldeb.

‘Newid ymylol yn hynod o siomedig’

Bydd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn ymuno â Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil Chwarae Teg, a’r Partner Ymchwil, Dr Hade Turkmen, i drafod prif ganfyddiadau eleni mewn gweminar ar gyfer rhanddeiliaid yn ddiweddarach bore heddiw.

“Fe wnaethon ni gynhyrchu Cyflwr y Genedl am y tro cyntaf yn 2019 er mwyn darparu meincnod i olrhain sut oedd Cymru’n symud tuag at ddod yn genedl sy’n fwy cyfartal o ran rhywedd,” meddai Natasha Davies.

“O ystyried bod pum mlynedd bellach wedi mynd heibio, mae gweld newid ymylol o’r fath yn hynod o siomedig.

“Mewn sawl maes, dydyn ni ddim wedi symud o gwbl ac mewn meysydd eraill rydyn ni wedi symud am yn ôl.

“Os fydd pethau’n dal i symud ar yr un cyflymder, bydd yn rhaid i fenywod yng Nghymru aros degawdau am wir gydraddoldeb.

“A bydd menywod o leiafrifoedd ethnig, anabl, neu ar incwm isel, yn aros hyd yn oed yn hirach.

“Er nad yw’r darlun cyffredinol lle bydden ni eisiau iddo fod, mae’n rhaid i ni groesawu’r ffaith fod y bwlch cyflog ar sail rhywedd wedi lleihau, bod cynnydd yn nifer y menywod sydd mewn cyflogaeth, a bod llai o fenywod yn segur yn economaidd oherwydd gofalu am deulu neu’r cartref.

“Rydym hefyd wedi gweld mwy o ASau a chynghorwyr benywaidd yn cael eu hethol ond mae hyn yn dal i fod yn llawer is na 50%, ac yn y Senedd, rydym wedi mynd am yn ôl gyda llai o fenywod yn ASau nag yr oedd yn 2019.

“Yn gywilyddus, ni fu unrhyw ostyngiad amlwg yn lefel risg menywod.

“Mae menywod yn dal i wynebu mwy o risg o dlodi, allgáu cymdeithasol a chaledi ariannol.

“Nid ydym yn gwneud fawr o gynnydd o ran mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gyda gwasanaethau cymorth arbenigol yn wynebu hyd yn oed mwy o alw.”

‘Cymru cyfartal o fudd i bawb’

“Bydd Cymru fwy cyfartal o fudd i bawb,” meddai Natasha Davies wedyn.

“Bydd yn cyfrannu at Gymru fwy llewyrchus, Cymru fwy gwydn a Chymru iachach.

“Ni fyddai unrhyw un yn diystyru maint y sialens o daclo anghydraddoldeb, ond rhaid i eiriau mwyn droi’n weithredoedd, a hynny ar fwy o frys.

“Mae creu Cymru gyfartal o ran rhywedd yn genhadaeth a ddylai gael ei pherchnogi gan bawb sy’n byw yng Nghymru.

“Ac mae gan y rhai sydd mewn swyddi o bŵer, yn y llywodraeth a’r tu allan iddi, gyfrifoldeb dros arwain y ffordd.”