Mae’r Urdd yn annog unigolion a chyflogwyr i ystyried prentisiaeth fel modd i feithrin gweithlu hyderus ac i ennill cymwysterau.

I nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (Chwefror 6-12), mae Non Owen yn rhannu ei rhesymau hi dros astudio prentisiaeth hefo’r Urdd, ynghyd â’i gwaith fel cymhorthydd dosbarth yn Ysgol Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth.

Dros gyfnod o flwyddyn, gwelodd hi’r effaith bositif mae’r brentisiaeth wedi ei chael ar ei gwaith gyda’r plant yn y dosbarth, ynghyd â’i hunanhyder ei hun.

Ers 2014, mae’r Urdd wedi cefnogi dros 500 o brentisiaethau ar draws Cymru, wrth gydweithio ag unigolion a chyflogwyr i ddatblygu sgiliau ac ennill cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Yn arbenigo mewn meysydd Chwaraeon, Awyr Agored, Gofal Plant a Gwaith Ieuenctid, mae Prentisiaethau’r Urdd yn helpu i ddatblygu sgiliau craidd trosglwyddadwy a chynnig phrofiadau eang gall gefnogi gyrfa mewn sawl sector.

Dechreuodd Non Owen, cymhorthydd dosbarth yn Ysgol Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth, ar Brentisiaeth Lefel 2 Chwaraeon gyda’r Urdd y llynedd.

Dros gyfnod o flwyddyn, gwelodd hi ei hunanhyder yn saethu wrth ddefnyddio’i sgiliau newydd yn y dosbarth.

“Doeddwn i erioed wedi rhoi fy enw lawr i wneud unrhyw brentisiaeth neu gwrs,” meddai.

“Pan ddaeth y cyfle, roedd yr amser yn iawn a’r pwnc o ddiddordeb i mi, ac felly mi es i amdani.

“Ers dechrau’r brentisiaeth hefo’r Urdd, rydw i’n teimlo’n fwy hyderus ar lawr y dosbarth.

“Mae’r brentisiaeth wedi rhoi pethau mewn persbectif gwahanol i mi; fel bod yn fwy ymwybodol o anghenion plant, bod yn ymwybodol o bwysigrwydd addasu gwaith er mwyn adnabod anghenion gwahanol a gwneud yn siŵr fod y plant yn cael y mwyaf allan o’r gwahanol weithgareddau.

“Rŵan dwi’n fwy parod i fwrw ymlaen gyda chynllunio gwersi, gan roi fy marn a rhannu unrhyw syniadau sydd genna’i.

“Mae’r brentisiaeth yma wedi cael effaith bositif iawn ar fy ngwaith o ddydd i ddydd.

“Dwi wedi darganfod hyder nad oeddwn yn ymwybodol ohono o’r blaen, a drwy wneud prentisiaeth hefo’r Urdd, dwi wedi sylweddoli fod gennyf y potensial i wneud unrhyw beth dwi’n gallu pan dwi’n rhoi fy meddwl arno.”

Ysbrydoli, datblygu sgiliau a chyflawni cymwysterau

“Mae prentisiaethau yn gyfle arbennig i ysbrydoli, datblygu sgiliau a chyflawni cymwysterau o fewn y byd gwaith,” meddai Catrin Davis, Pennaeth Adran Brentisiaethau’r Urdd.

“Ar hyn o bryd mae’r Urdd yn cefnogi dros 100 o brentisiaethau ar draws Gymru.

“Mae cefnogaeth ein hadran yn amrywio yn ôl yr angen – o helpu i ddatblygu sgiliau gweithlu presennol drwy ddarparu hyfforddiant o’r safon uchaf, i gynnig cyfleoedd i brentisiaid ifanc sydd ar ddechrau eu gyfra.

“Dros y flwyddyn nesaf rydym yn edrych ymlaen i barhau i ehangu’r cyfleoedd gallwn ei gynnig ym mhob rhan o Gymru.

“Mae llawer o’r sgiliau mae unigolyn yn ei ddysgu dros gyfnod prentisiaeth yn drosglwyddadwy.

“Gall prentisiaethau helpu i feithrin gweithlu hyderus trwy ddarparu cyfleoedd dysgu, i ddatblygu’n bersonol a chymdeithasol, ac i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg.”