Daeth nifer o brotestwyr gwreiddiol Cymdeithas yr Iaith ynghyd yn Aberystwyth heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 4) ar gyfer taith gerdded arbennig i nodi 60 mlynedd ers eu protest gyntaf.

Dechreuodd y daith ar Bont Trefechan, cyn ymweld â nifer o leoliadau eiconig y dref sy’n rhan o hanes y mudiad.

“Roedd y brotest a’r cyfnod yn gyffrous, ac fe wnaeth y cyhoeddusrwydd sylw a’r sylw arwain at ddegawdau o ymgyrchu sy’n dal i fynd ymlaen,” meddai Aled Gwyn.

“Mae gwaith i’w wneud o hyd ond rwy’n obeithiol.

“Mae arwyddion calonogol ar hyn o bryd bod gennym nifer o arweinwyr glew a mudiadau goleuedig mewn nifer o feysydd allweddol a all wneud gwahaniaeth a rhoi hwb i’n hyder.”

Un o’r cyfranwyr heddiw sydd wedi bod yn rhan weithredol o’r cyfnod diweddar yw’r cyn-gadeirydd Bethan Ruth.

“Rwy’n perthyn i gyfnod sydd wedi elwa o ymgyrchu’r degawdau cyntaf,” meddai.

“Ond dydy pawb ddim yn y sefyllfa freintiedig honno o allu cael addysg Gymraeg, swydd Gymraeg a byw yn Gymraeg.

“Felly mae angen dal i frwydro.”