Dwi’n mwynhau trafodaeth frwd, yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg, a’r dyddiau hyn mae gen i’r amser a’r hyblygrwydd i fanteisio ar gyfleoedd niferus i gyfrannu. Daeth cyfle da yr wythnos ddiwethaf pan ddaeth y rhaglen Hawl i Holi i Gapel y Groes, Wrecsam.
Adeilad hyfryd yw hwn yng nghanol y ddinas-sir (a’r hen dref), lle mae llawer iawn o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal. Roedd lluniaeth hyfryd ar gael, ac roedd criw go lew wedi ymgynnull, gan gynnwys rhai o ddisgyblion chweched dosbarth Ysgol Morgan Llwyd.
Roedd pawb wedi cyfrannu cwestiynau posib ymlaen llaw, a chafodd pump ohonyn nhw eu dewis i gael eu gofyn i’r panel, sef Alun Davies, Aelod Llafur o’r Senedd; Aled Davies o’r Ceidwadwyr Cymreig; Elin Haf Davies, cyfarwyddwr cwmni Aparito yn Wrecsam; Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd; a Chris Evans, cadeirydd Saith Seren (ac athro yn Ysgol Morgan Llwyd).
Panel y rhaglen ‘Hawl i Holi’ yn WrecsamYn anffodus, ni ddewiswyd y cwestiwn gynigiais i am yr ymgyrch dros Ddeddf Addysg Gymraeg yng nghyd-destun Dinas Wrecsam – bach yn rhy heriol efallai? Siomedig braidd, ond ta waeth, mi wna i ddelio hefo hwnnw mewn erthygl arall sydd ar y gweill.
Y Gymraeg a phobol ifanc y fro?
Yn sgil y Cyfrifiad, roedd sefyllfa fregus yr iaith ar feddyliau’r cyfranwyr, a chafodd cwestiwn ei ofyn am sut i hybu’r Gymraeg yn y fro. Trodd hyn yn drafodaeth ddwys, hefo pob math o droadau cymhleth… yna daeth datguddiad o gyfeiriad y bobol ifanc…
Soniwyd fod yna ofyniad i bobol ifanc dros 16 oed dalu am fws draw i Ysgol Morgan Llwyd, lle maen nhw am astudio eu Lefel A trwy gyfrwng y Gymraeg; ac maen nhw’n talu crocbris hefyd – £400 y flwyddyn, yn ôl un ohonyn nhw.
Difyr fu’r drafodaeth, os braidd yn frawychus, gyda’r bobol ifanc yn sôn fod yna fws sydd yn gwneud y siwrne beth bynnag, ond fod disgwyl iddyn nhw dalu dros eu hunain. Roedd y myfyrwyr yn byw yn ardaloedd cefn-gwlad y ddinas, megis Dyffryn Ceiriog, Rossett a Choedpoeth.
A dyma bwynt pwysig am gyd-destun y ddarpariaeth a’r ddadl hon – mae pobol o bob cwr o’r ddinas yn teithio draw i Ysgol Morgan Llwyd, er mwyn cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae opsiynau eraill y fro yn cynnwys Coleg Cambria, sydd yn cynnig trafnidiaeth am ddim i bobol ifanc 16+ oed.
Yn amlwg, does dim modd datrys na hyd yn oed ddeall cymhlethdod sefyllfa fel hon o fewn trafodaeth ar raglen felly, ond roedd hyn yn ddigon i amlygu’r broblem ac ennyn digon o chwilfrydedd i ni fynd ati i ymchwilio wedyn.
Ysgol Morgan Llwyd v Coleg Cambria
Wrth bori’r wê, des i ar draws erthyglau yn sôn am yr helynt a fu flwyddyn diwethaf, wrth geisio sortio’r mater o drafnidiaeth i’r myfyrwyr yma. Mae’n ymddangos taw toriadau gan y Cyngor sydd wrth wraidd y broblem, a hynny er gwaetha’r ffaith eu bod nhw yn falch iawn o’r gwaith maen nhw’n ei wneud i hybu’r Gymraeg yn y ddinas-sir.
Yn ôl un erthygl, mae oddeutu deg o fyfyrwyr wedi penderfynu mynychu Coleg Cambria yn hytrach nag Ysgol Morgan Llwyd, oherwydd y gost – gyda phris o £1,000 yn cael ei nodi!
Yn ôl pob sôn, does dim cyfrifoldeb ar y Cyngor i ddarparu trafnidiaeth i bobol ifanc 16+ oed, a hynny oherwydd penderfyniad gafodd ei wneud yn 2015.
Nôl yn mis Rhagfyr 2022, dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn (Annibynnol, Brynyffynnon) fod myfyrwyr wedi derbyn cynnig consesiwn o £2 y dydd, a bod hynny wedi datrys y mwdwl am rŵan.
Ymhellach, roedd rhaid i’r Cyngor flaenoriaethu darpariaeth i blant o dan 16 oed, a’u bod nhw yn aros i weld beth fyddai canlyniad adolygiad y Senedd ar fater darparu trafnidiaeth statudol i bobol ifanc.
Rôl yr iaith?
Mae’r mater braidd yn aneglur a dryslyd. Ar un llaw, mae’n edrych fel bod yna elfen ieithyddol i’r anghydraddoldeb fa’ma – yn sicr, dyna sy’n cael ei awgrymu yn rhai o’r erthyglau.
A dwi’n cofio nôl i’r 2000au pan ddaeth cyhoeddiad bod Ysgol Morgan Llwyd yn cael ei symud o Stockwell Grove draw i hen safle Coleg Cartrefle, gafodd ei agor yn 2011. Bu rhai’n rhagweld y byddai’r Cyngor yn torri trafnidiaeth, ac y bysa’r ysgol wedi ei hynysu… fel gweledigaeth o’r hyn sy’n digwydd nawr!
Ar y llaw arall, mae pobol ifanc hefyd yn cael trafferth cyrraedd ‘Maelor School’ yn Llannerch Banna (Penley) er mwyn symud ymlaen i’r chweched, ac felly’n dewis Coleg Cambria.
Ymhellach, mae yna ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sylweddol eisoes yn cael ei meithrin yng ngholegau Cambria fel rhan o fenter ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ac mae’r opsiynau yn cynnwys lefel UG (AS) yn y Gymraeg (iaith Gyntaf) ar safle Iâl yng nghanol y ddinas.
Felly, a oes yna elfen sydd fwy i’w wneud hefo darpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion, yn erbyn darpariaeth colegau addysg bellach fa’ma?
Beth bynnag yw’r rhesymeg a’r wleidyddiaeth, y myfyrwyr sydd yn dioddef, yn enwedig y rhai sydd yn byw yng nghefn gwlad ac sy’n gorfod jyglo gwaith rhan amser hefo’u haddysg, jyst er mwyn fforddio mynychu’r ysgol.