Yn dilyn marwolaeth y bardd Les Barker yn 75 oed dros y penwythnos, mae teyrngedau lu wedi’u rhoi i’r dyn o Fanceinion ymgartrefodd yn Wrecsam a dysgu Cymraeg cyn mynd yn ei flaen i farddoni a chystadlu ac ennill cadeiriau lu mewn eisteddfodau ac fel aelod o dîm Talwrn y Beirdd Tegeingl. Yma, mae un o’i gyd-aelodau yn talu teyrnged i’w ddylanwad arni wrth iddi hithau fentro i fyd y beirdd…


Y tro cyntaf i mi gwrdd â Les oedd yr ‘Eisteddfod yn y dafarn’ yn 2010 – gŵyl hwyliog gafodd ei threfnu yn y Clwb Lager yn Wrecsam, fel rhan o’r build-up i’r Eisteddfod Genedlaethol yn y fro yn 2011. Roedd o i weld yn nabod pawb ac yn mwynhau ei hun – roedd yna wastad gwên ar ei wyneb. Enillais wobr am fy nhelyneg ‘Llygaid’, ac roedd yn gwenu ac yn nodio arnaf mewn ffordd gefnogol. Gwelais Les wedyn o amgylch y lle, a’i enw ar bethau llenyddol; roedd yn amlwg yn un o’r movers and shakers ar y sîn leol.

Yna, cefais saib o’r byd llenyddol am ryw ddegawd, gan fy mod wrthi’n trio creu gyrfa i fy hun ym myd academia, ac yn rhy brysur i ddim byd arall. Pan ddaeth yr yrfa hyn i ben yn 2019, dychwelais yn raddol i’r sîn a gweld fod Les dal i fod yn rhan annatod o’r sîn, a phan ymunais â thîm Talwrn Tegeingl yn 2021, mi roedd Les yn un o’r aelodau. Braf iawn oedd dod i nabod Les trwy weithio ar gynigion y Talwrn – roedd hyn i gyd dros e-bost, wrth gwrs, gwaetha’r modd, ond mi roedd dal yn hyfryd.

Un o fy hoff atgofion o’r flwyddyn ddiwethaf oedd fod Les wedi sgwennu rhywbeth mewn cynghanedd, ac mi roedd o wedi ei gylchredeg o amgylch y tîm am sylwadau. Roedd yna ychydig o benbleth ynglŷn ag os oedd cynghanedd yn un o’r llinellau, ond mi roeddwn i wedi bod i sesiwn gynganeddu yng Ngŵyl Gerallt, lle fuodd Osian Owen yn dangos enghreifftiau ‘Eurigaidd’ i ni, a thaerais fod llinell Les yn enghraifft o ‘groes o gyswllt’. Bu Les yn wylaidd, gan ddweud doedd o ddim yn siŵr am hynny, ond mi roedd yn meddwl fod yna gynghanedd ynddo fo. Galwon ni ar y big guns, a daeth Aneirin Karadog i mewn i’r sgwrs, gan gadarnhau taw cynghanedd groes-o-gyswllt oedd y llinell. Roedd Les wrth ei fodd!

Bu Les hefyd yn gefnogol iawn o soned roeddwn wedi ei sgwennu am y Ddeddf Iaith BSL, a beth oedd hyn yn ei olygu i mi a fy nheulu Byddarclywed. Dywedodd nad oedd yn gwybod am yr hyn yr oeddwn yn sôn amdano yn y gerdd, ac felly wedi dysgu ohoni. Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai’n cael ei chynnwys yn y talwrn. Gwaetha’r modd, ni chafodd y soned ei chynnwys, gan nad oedd yn ‘delyneg’ am ryw reswm, ond mi roedd sylwadau Les wedi bod yn galonogol, serch hynny.

Yna, ar ddechrau 2023, cawsom y tasgau trwy o’r talwrn, a Les oedd y cyntaf allan o’r blocs! Anfonodd lwythi o gerddi atom ni yn y tîm, gan holi am sylwadau a ballu. Yn wir, un o’r e-byst diwethaf iddo ei hanfon atom oedd un yn rhannu mwy o waith, gan hefyd ddweud fod hynny yn ddigon am y diwrnod, ac mi roedd am fynd i weld y pêl-droed drannoeth – ac roedd hynny’n ddigon teg, ynte. Mae gennym, felly, wledd o gerddi olaf Les, fel rhan o’n cynigion i’r Talwrn tro yma, pan fyddwn yn cwrdd â’r Llewod Cochion draw yn Neuadd Garth Garmon, Capel Garmon, Llanrwst.

Teimlo’r golled yn arw iawn

Mi fyddwn yn teimlo ei golled yn arw iawn ar y tîm, yn enwedig fel un o’r cynganeddwyr; tydw i methu cynganeddu, gwaetha’r modd! Ond ar ben hyn, wrth gwrs, mi roedd yn enaid addfwyn ac yn gefnogol iawn o waith pawb arall. Mi sgwennais un gân ysgafn at y Talwrn ar y dôn ‘Eternal Flame’ gan ‘The Bangles’, ond cafodd hon tumbleweed o ymateb, felly trïais eto. Cefais ymateb gan Les i’r ail gân rai munudau wedi i mi ei hanfon, oedd yn dweud: “Braidd yn optimistaidd, ond yn ardderchog”. Roedd hyn yn golygu lot i mi, gan fod Les yn arbenigo mewn pethau ysgafn a doniol.

Ac felly, trist iawn fydd gorfod perfformio heb Les ar diwedd y mis ‘cw, ond dwi’n browd iawn o fy nghân fach sili, gan fod o wedi cael seal of approval gan rywun oedd yn gwybod ei stwff o ran y math yma o lenyddiaeth felly.

Mae marwolaeth Les yn golled fawr i’r gymuned leol ac i’r sîn lenyddol yn gyffredinol. Yn wir, o weld teyrngedau ar Twitter a ballu, dwi’n dechrau sylweddoli faint yr oedd Les wedi’i gyfrannu i adnoddau Cymraeg, ac i’r ymgyrch iaith yn fwy cyffredinol.

Rydym wedi colli person arbennig iawn, a pherson pwysig iawn o ran y Gymraeg a barddoniaeth yn ardal Wrecsam, lle mae’r ddau beth hynny yn brin fel ag y mae hi. Cwbl y gallwn ni fel tîm ei wneud ydy ceisio perfformio ei gerddi fo gorau fedrwn ni, a thalu teyrnged i’n ffrind annwyl.

Cysga’n dawel, Les. Heddwch i’w lwch.