Mae Tom Jones wedi taro’n ôl yn erbyn Dafydd Iwan tros ei gân enwog Delilah.
Neithiwr, fe ddywedodd ei fod yn siomedig i glywed am yr alwad i roi’r gorau i ganu’r gân o flaen gêmau rygbi rhyngwladol.
Roedd clywed ei gân enwoca’n cael ei chanu yn gwneud iddo “deimlo’n falch iawn fy mod yn Gymro”, meddai.
Roedd Tom Jones yn ymateb i alwad gan Dafydd Iwan – stori a gafodd ei thorri ar Golwg360 – am roi’r gorau i ganu’r gân sy’n sôn am ddyn yn llofruddio’i gariad am fod yn anffyddlon.
Mewn blog i’r gwasanaeth Cristnogaeth 21, roedd y canwr Cymraeg a’r gwleidydd wedi dweud nad oedd y geiriau’n addas pan oedd trais yn erbyn merched yn broblem fawr.
‘Nid datganiad gwleidyddol’
Ond, yn ôl Tom Jones, roedd hynny’n mynd yn groes i ysbryd y gân – y cyfan yr oedd hi’n ei wneud oedd disgrifio rhywbeth oedd yn digwydd mewn bywyd pob dydd, meddai.
“Nid datganiad gwleidyddol yw hi,” meddai, “Y peth mawr am y gân yw fod pawb yn codi’r cytgan. Dw i ddim yn credu eu bod o ddifri’n meddwl am y peth.
“Os ydi hi am gael ei chymryd yn llythrennol fel yna, dw i’n credu bod hynny’n cael gwared ar yr hwyl. Dw i’n credu ei fod yn cael gwared ar ysbryd y canu.”