Mae un o brif gylchgronau Saesneg Cymru wedi dechrau ymgyrch yn erbyn rheolau newydd o Ewrop sydd, meddai, yn bygwth ei ddyfodol.

Yn ôl y cylchgrawn Planet fe allai golli llawer o’i incwm oherwydd rheolau newydd y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch cyllido cylchgronau.

Lansiodd Planet apêl yn gofyn i’w ddarllenwyr gysylltu â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones, y Gweinidog Diwylliant Ken Skates, llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant yn San Steffan Jonathan Edwards, neu’r Aelodau Seneddol Ewropeaidd Jill Evans a Derek Vaughan i wrthwynebu’r drefn newydd.

Y newid

O fis Ebrill 2015 ymlaen, fe fydd y Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried bod cymorth gan y wladwriaeth yn anghyfreithlon gan ei bod yn llesteirio cystadleuaeth ymhlith cwmnïau.

Bydd grantiau’n cael eu cwtogi gan reolau ‘de minimis’ sy’n golygu mai’r uchafswm y gallai cyhoeddiad ei dderbyn mewn grantiau dros gyfnod o dair blynedd yw 200,000 ewro, sef tua £55,000  y flwyddyn.

Y llynedd, fe dderbyniodd Planet £69,825.

Yn ôl ‘Planet’ , fe allai ddiflannu yn enw ‘cystadleuaeth deg’ pe bai rhaid cystadlu mewn byd sy’n rhoi’r flaenoriaeth a’r sylw i gylchgronau sy’n cael eu cynhyrchu’r tu allan i Gymru.

O dan y rheolau newydd,  fe fydd cyhoeddiadau Cymraeg yn ddiogel gan eu bod nhw a chyhoeddiadau mewn ieithoedd lleiafrifol eraill wedi’u heithrio.

‘Mwy o bwyslais ar gystadleuaeth’

Dywedodd Golygydd Cynhyrchu Planet, Dafydd Prys wrth Golwg360: “R’yn ni’n derbyn grant gan Gyngor Llyfrau Cymru.

“Gyda’r rheolau newydd yma, mae ’na fwy o bwyslais ar gystadleuaeth ac fe fydd llai o gyfleoedd i frwydro am arian.

“Yn nhermau real, mae’r grant wedi lleihau’n ddifrifol fel ei fod yn £55,000 y flwyddyn dros gyfnod o dair blynedd.

“Gan fod y grantiau’n delio mewn Ewro, mae’r swm ariannol yn ddibynnol ar y gyfradd gyfnewid, sy’n amrywio wrth gwrs.

“Mae’r swm o £55,000 yn llawer is na’r grantiau ry’n ni wedi’u cael yn y gorffennol, ac mae unrhyw leihad ariannol yn mynd i gael effaith.”

Ychwanegodd y byddai’n rhaid edrych ar fodolaeth y cwmni fel busnes pan fydd y grant yn cael ei roi, a sut y bydd yn effeithio ar y modd y mae’r cylchgrawn yn cael ei redeg.

Stori: Alun Rhys Chivers