Mae Dafydd Iwan yn dweud bod eisiau ysytried o ddifrif beidio canu’r gân ‘Delilah’ cyn gemau rygbi Cymru yn Stadiwm y Mileniwm.
Yn ôl y canwr a’r gwleidydd mae geiriau cân eiconig Tom Jones – am ddyn sy’n trywanu dynes i farwolaeth ar ôl ei gweld ym mreichiau dyn arall – yn “ddi-chwaeth”, ac yn “anfoesol” .
Nawr mae Aelod Cynulliad wedi dweud ei bod hi’n meddwl y dylai rhywun newid geiriau’r gân oherwydd eu bod nhw’n “andwyol i ferched”.
‘Angen ystyried be da ni’n canu’
Gwnaeth Dafydd Iwan ei sylw mewn post blog ar wefan Cristnogaeth 21 oedd yn trafod faint o ystyriaeth y mae pobol yn ei roi i eiriau caneuon.
Meddai Dafydd Iwan: “Be ddechreuodd o oedd sôn am y sylw yr ydan ni’n ei roi i eiriau unrhyw gân y dyddiau hyn.
“Y duedd yw canu caneuon heb ystyried am be mae’r gân yn sôn ac roedd hynny yn mynd trwy fy meddwl i cyn un gêm – mae o’n gymysgedd diddorol mewn un ffordd, diystyr mewn ffordd arall.
“Ond y gȃn y mae angen gofyn o ddifri a ddylai hi gael ei chydnabod fel hyn yn ein prif arena genedlaethol yw ‘Delilah’.”
Y stori
Yn y blog ar Cristnogaeth 21, mae’n tynnu sylw at y stori sydd yn y geiriau.
“Y cysylltiad Cymreig, wrth gwrs, yw iddi gael ei recordio gan Tom Jones, a dyna’r unig Gymreictod a berthyn iddi. Ond ydach chi erioed wedi ystyried y geiriau? Stori ddigon syml – gweld Delilah ym mreichiau dyn arall, a chnocio ar ei drws yn y bore a’i thrywanu i farwolaeth.
“Ddylai hon, mewn difri, gael ei chanu o flaen pob gêm ryngwladol?”
Ychwanegodd Dafydd Iwan: “Mae ‘Delilah yn diraddio merched cynddrwg â dim a dw i’n teimlo ers blynyddoedd fod ‘Delilah’ wedi cael ei dyrchafu’n eicon Gymraeg Gymreig ond dim byd Cymreig amdani.
“Weithiau mae angen ystyried be yda ni’n ei ganu.”
‘Angen newid y geiriau’
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn paratoi Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) er mwyn mynd i’r afael â’r lefelau o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae Christine Chapman AC, yn gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n craffu’r Bil newydd.
Dywedodd Christine Chapman wrth Golwg360 ei bod hi wrth ei bodd gyda ‘Delilah’ ond ei bod hi’n bryd newid y geiriau.
‘Andwyol’
Meddai Christine Chapman: “Dw i’n caru Delilah ond mae’r geiriau’n andwyol i ferched.
“Dyw hi ddim yn bosib gwahardd y gân ond efallai ei bod hi’n bosib newid y geiriau – eu gwneud nhw’n fwy modern.
“Mae hi’n gân dda iawn yn gerddorol ond dyw’r geiriau ddim yn briodol rhagor – ac mae’n gyfle i rywun sgwennu geiriau newydd iddi.”
Y geiriau
“Delilah”
I saw the light on the night that I passed by her window
I saw the flickering shadows of love on her blind
She was my woman
As she deceived me I watched and went out of my mind
My, my, my, Delilah
Why, why, why, Delilah
I could see that girl was no good for me
But I was lost like a slave that no man could free
At break of day when that man drove away, I was waiting
I cross the street to her house and she opened the door
She stood there laughing
I felt the knife in my hand and she laughed no more
My, my, my Delilah
Why, why, why Delilah
So before they come to break down the door
Forgive me Delilah I just couldn’t take any more
She stood there laughing
I felt the knife in my hand and she laughed no more
My, my, my, Delilah
Why, why, why, Delilah
So before they come to break down the door
Forgive me Delilah I just couldn’t take any more
Forgive me Delilah I just couldn’t take any more