Ched Evans
Mae cyfreithiwr Cymdeithas Pêl-droedwyr Proffesiynol Iwerddon wedi amddiffyn cyn bêl-droediwr Sheffield United a Chymru, Ched Evans.

Awgrymodd cyfreithiwr y gymdeithas, Stuart Gilhooly, y gallai Ched Evans fod yn ddiniwed ac, hyd yn oed os yw’n euog, ei fod yn haeddu cyfle arall.

Gwnaeth Stuart Gilhooly ei sylwadau mewn erthygl ar ei wefan ac fe wnaeth o hefyd gymharu sefyllfa Evans gyda’r Guildford Four.

Daeth ei sylwadau ar ôl i gyn ganwr yr Housemartins a Beautiful South, Paul Heaton, ymddiswyddo o fod yn noddwr Sefydliad Cymunedol Sheffield United.

Paul Heaton yw’r diweddaraf mewn cyfres o enwogion sydd wedi ffarwelio â’r clwb mewn protest ers i Ched Evans ddychwelyd i hyfforddi gyda nhw.

Cafwyd Ched Evans yn euog ym mis Ebrill 2012 o dreisio dynes 19 mlwydd oed mewn gwesty yn Y Rhyl a chafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar.

Cafodd Evans ei ryddhau o’r carchar fis diwethaf ar ôl treulio hanner ei ddedfryd dan glo – ac mae Stuart Gilhooly yn credu ei fod yn haeddu cyfle arall.

‘Haeddu cyfle arall’

Dywedodd Stuart Gilhooly: “Nid oedd unrhyw drais a diolch byth, does gan y dioddefwr ddim atgof ohono. Dyw hynny ddim yn ei wneud yn iawn, ond mae’n ffactor lliniarol serch hynny.”

Ychwanegodd: “Dyw hi ddim yn hawdd cydymdeimlo a Evans, ond does dim byd gwaeth na chael eich cyhuddo o drosedd dych chi’n wirioneddol credu na wnaethoch chi ei gwneud.

“Y ddadl yn erbyn hynny yw bod y rheithgor wedi ei gael yn euog o’r drosedd. Mae’r un peth yn berthnasol i’r Guildford Four a’r Birmingham Six. Ni chawson nhw gydymdeimlad cyhoeddus chwaith.

“Efallai ei fod yn euog neu efallai ei fod yn ddieuog, does yr un ohonom yn gwybod yn siŵr. Ond yn sicr, naill ffordd neu’r llall, mae’n haeddu cyfle arall.”