Mae ymgyrchydd iaith yn rhybuddio nad ydy maint y dirywiad ieithyddol yng Ngwynedd wedi cael ei gofnodi, ac mae hi’n galw am gryfhau polisi iaith y sir.

Dylai pob plentyn yn y sir gael yr hawl i dderbyn addysg gyflawn drwy’r Gymraeg, meddai Angharad Tomos wrth fanylu ar y gofynion.

Wrth siarad ar ran Cymdeithas yr Iaith, dywed mai’r cwestiwn mawr yn dilyn Eisteddfod lwyddiannus ym Moduan ydy “sut i gadw gafael ar y Gymraeg yn Llŷn a gweddill Gwynedd”.

Heb bolisi iaith “llawer cadarnach”, bydd pethau’n dirywio’n gynt, rhybuddia’r awdur a’r ymgyrchydd.

“Y diffyg mawr yw nad oes monitro ieithyddol wedi digwydd o gwbl gan y Cyngor yn ystod y blynyddoedd diweddar yng Ngwynedd, felly dydi maint y dirywiad heb ei gofnodi,” meddai wrth golwg360.

“Pan gawn wybod y gwir, bydd maint y dirywiad yn oeri’n gwaed.

“Un peth amlwg yw cryfhau polisi iaith Gwynedd yn ddiymdroi, a’r ail beth yw cryfhau’r polisi trochi fu mor llwyddiannus yn y gorffennol.”

‘Addysg gyflawn Gymraeg’

Mae Adran Addysg Cyngor Gwynedd wedi gosod ysgolion uwchradd y sir – oni bai am Ysgol Friars ac Ysgol Tywyn – yng Nghategori 3 dan drefn categoreiddio newydd Llywodraeth Cymru.

Bydd ysgolion Categori 3 yn cynnig ystod eang o’u Meysydd Dysgu a Phrofiad drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd o leiaf 60% o’r disgyblion yn ymgymryd ag o leiaf 70% o’u gweithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol yn yr ysgol yn Gymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith, Cylch yr Iaith a Dyfodol i’r Iaith eisoes wedi dweud bod hyn yn “annigonol i wrthsefyll” dirywiad ieithyddol.

Dylid rhoi’r ysgolion uwchradd yn y categori uchaf ar gyfer Addysg Cyfrwng Cymraeg, meddai.

“Dros y blynyddoedd, dw i wedi bod yn cyfarfod efo gwahanol swyddogion y Cyngor a jyst yn teimlo bod yr un broblem yn bod, ac mae rhywun yn blino ac mae’r problemau yn gwaethygu efo’r mewnlifiad,” meddai Angharad Tomos wedyn.

“Dw i’n trio cadw ysbryd yr Eisteddfod yn bositif, mae pobol yn teimlo’i bod hi wedi bod yn Eisteddfod dda, ac wedyn jyst derbyn bod yna wendidau wedi bod a sut fedrwn ni fynd o fan hyn.

“Dw i’n cael problemau efo’r busnes o ddysgu 70% [drwy’r Gymraeg] mewn rhai ysgolion.

“Y nod syml ydy bod gan bob plentyn yng Ngwynedd yr hawl i dderbyn ei addysg drwy Gymraeg.

“Mae o’n bolisi syml, ac mae o ar gael mewn ysgolion Cymraeg mewn ardaloedd ym Morgannwg – pam ddylai plentyn yng Ngwynedd gael cynnig llai nag y mae plant yng Nghaerdydd yn cael ei gynnig?

“Dyna’r gofyniad yn syml, bod posib i bob plentyn gael addysg gyflawn yn Gymraeg.”

Ychwanega hefyd fod yna broblemau o hyd o ran diffyg adnoddau cyfrwng Cymraeg.

“Rydyn ni wedi bod yn pwyso am adnoddau dysgu, ddylai hynny fod wedi cael ei ddatrys erbyn hyn,” meddai.

“Dw i’n cael rhai pobol yn dweud bod yr adnoddau yna, ond eu bod nhw methu gorfodi ysgolion i’w defnyddio nhw.

“Os ydych chi’n dweud wrth blant i ymchwilio ar y we, mae’r rhan fwyaf o hwnnw’n Saesneg, a be’ mae’r athrawon eu hunain yn gorfod cyfieithu – rydych chi’n mynd i ddiffygion difrifol iawn, diffygion na ddylen ni orfod eu hwynebu yn 2023.”

Angharad Tomos yn siarad yn un o ralïau Cymdeithas yr Iaith eleni

Trochi ieithyddol

Pryder arall yw’r “tanariannu” ym maes trochi ieithyddol, meddai Angharad Tomos.

Y llynedd, fe wnaeth Cyngor Gwynedd ofyn i Lywodraeth Cymru am £2.9m i wella canolfannau iaith y sir.

Dan y cynlluniau, byddai £1.1m yn cael ei fuddsoddi mewn adnoddau newydd yn Nhywyn a Bangor, ac i wella’r adnoddau ym Mhorthmadog.

Yn ôl Angharad Tomos, rhaid rhoi mwy o bwyslais ar ganolfannau trochi.

“Clywsom lawer o sôn am Dafydd Orwig yn ystod yr Eisteddfod, oedd mor greiddiol yn hanes cymhathu hwyrddyfodiaid mewn canolfannau iaith,” meddai.

“Trist yw clywed am y tanariannu yn y maes, a bod canolfan megis Llangybi wedi cael naw athro gwahanol mewn tymor.

“Os nad ydych chi’n cael y polisi trochi’n iawn, dydy gweddill y drefn ddim yn mynd i weithio. Mae o wedi profi’n ddull effeithiol.

“Dw i’n meddwl ein bod ni yn y gymdeithas gyfoes yn medi llwyddiant y polisi trochi, dyna pam bod gennych chi bobol gwbl hyddysg yn ddwyieithog – am eu bod nhw wedi’u trochi yn yr ysgol.

“Y gŵyn dw i’n clywed gan lot o gyflogwyr rŵan ydy bod yna brinder Cymry Cymraeg; os felly, mae eisiau buddsoddi rŵan yn y polisi trochi er mwyn bod gennym ni weithlu cwbl ddwyieithog yng Ngwynedd sy’n hyderus yn eu Cymraeg.”

Ers y llynedd, mae technoleg newydd yn cael ei defnyddio gyda phlant sy’n rhan o raglen trochi’r Gymraeg yn y sir.

Drwy’r dechnoleg, gall plant symud o gwmpas tref ddychmygol Aberwla, gan ymarfer eu sgiliau iaith gyda hyd at 30 o bobol eraill ac ymgnawdoliadau (avatars) digidol.

Ymateb Cyngor Gwynedd

“Dim lle i laesu dwylo” wrth adeiladu hyder plant wrth siarad Cymraeg

Dywed Cyngor Gwynedd fod “gwaith caled” ysgolion yn hyn o beth yn “destun balchder a dathlu”

Darllenwch ragor…

Llun o fyrddau a chadeiriau lliwgar mewn dosbarth

Mudiadau’n mynegi pryder am fwriad Adran Addysg Gwynedd o ran addysg Gymraeg

Dydy Categori 3 ddim yn addas ar gyfer ysgolion uwchradd Gwynedd, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, Cylch yr Iaith a Dyfodol i’r Iaith