Mae technoleg ddigidol newydd yn cael ei defnyddio gyda phlant sy’n rhan o raglen trochi’r Gymraeg yng Ngwynedd.

Animated Technologies, cwmni o Ynys Môn, sydd wedi datblygu’r adnodd rhithwir (virtual reality / VR) newydd sydd wedi cael ei lansio’n ddiweddar.

Drwy’r dechnoleg, gall plant symud o gwmpas tref ddychmygol Aberwla gan ymarfer eu sgiliau iaith gyda hyd at 30 o bobol eraill ac avatars digidol.

Y gobaith yw y bydd y dechnoleg newydd yn gwneud dysgu iaith yn hwyl ac yn fwy rhyngweithiol i bobol ifanc.

Ffordd “effeithiol” o ddysgu

Anna Burke yw cyd-sylfaenydd Animated Technologies, ac mae hi’n dweud eu bod nhw wedi derbyn adborth “ffantastig” yn barod.

“Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn o weld y prosiect yma’n dod yn fyw, ac yn gobeithio y bydd disgyblion sy’n cymryd rhan yn rhaglen drochi iaith 10-wythnos Gwynedd yn mwynhau dysgu gyda’r dechnoleg yma,” meddai.

“Rydym yn ymwybodol bod defnyddio VR i ddysgu yn effeithiol, gydag astudiaethau yn dangos bod dysgwyr yn cofio hyd at 75% yn fwy o wybodaeth gyda thechnoleg fel hyn o’i gymharu â’r ystafell ddosbarth arferol.

“Rydym wedi derbyn adborth ffantastig yn barod, ac mae disgyblion wrth eu boddau yn treulio amser yn y rhithiol Aberwla.

“Y cam nesaf i ni ydi ehangu’r gofod VR i gynnig cynnwys a sefyllfaoedd ychwanegol fydd yn galluogi dysgwyr i ymestyn eu geirfa a’u hyder.”

‘Apelio i ddysgwyr’

Yr awdur a’r cyflwynydd Anni Llŷn sydd wedi creu’r dref ddychmygol, a’r nod yw cynorthwyo disgyblion sy’n symud i Wynedd i gael gafael ar yr iaith cyn iddyn nhw ddechrau addysg brif ffrwd.

Y bwriad yw bod y profiadau rhithiol newydd yn atgyfnerthu dysgu’r ystafell ddosbarth.

Wedi’i ariannu trwy gronfa Trochi Hwyr Llywodraeth Cymru, fe wnaeth Cyngor Gwynedd gomisiynu Animated Technologies ac Anni Llŷn i wneud y gwaith.

“Roedden ni am ddatblygu adnodd arloesol i gefnogi newydd-ddyfodiaid i’r sir i ddysgu Cymraeg, gan ychwanegu at ein cwrs trochi iaith deg wythnos presennol,” meddai’r Cynghorydd Beca Brown, yr aelod cabinet gyda chyfrifoldeb dros addysg.

“Y gobaith yw y bydd Aberwla yn apelio i’n dysgwyr ac yn eu helpu nhw i ymarfer patrymau iaith trwy chwarae ac ymarfer eu sgiliau mewn gwahanol sefyllfaoedd

“Mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi’r pob cyfle i blant a phobl ifanc sy’n newydd i Wynedd i ddysgu’r Gymraeg fel eu bod nhw’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’u ffrindiau newydd yn yr ysgol ac yn eu cymunedau.

“Bydd y prosiect yma yn gwneud hynny yn ogystal â chyfrannu at darged Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”