Mae Gŵyl Pride yn dychwelyd i’r cymoedd y penwythnos hwn, a hynny am y tro cyntaf ers Covid.

Mae dathliadau’r penwythnos yn cychwyn gyda gorymdaith Pride Cymru, a fydd yn dathlu 50 mlynedd ers gorymdaith Pride gyntaf erioed y Deyrnas Unedig.

Mae digwyddiadau a pherfformiadau wedi’u cynllunio ar dri llwyfan ddydd Sadwrn (Awst 27) a dydd Sul (Awst 28), ar Lawntiau Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.

Bydd yr arlwy ddydd Sadwrn yn cynnwys Mel C o’r Spice Girls, y seren Drag Race Bimini, Dead Method, Corws Dynion Hoyw De Cymru a llond llaw o gantorion Cymreig, actorion drag, DJs a mwy.

Ddydd Sul, bydd Boney M, DJ BBC Radio 1 Adele Roberts a Welsh of the West End yno.

‘Dangos pa mor bell rydyn ni wedi dod’

Mae Dan Walsh, un o ymddiriedolwyr Pride Cymru yn teimlo bod digwyddiadau o’r math yn dangos sut wlad ydy Cymru.

“Mae’r ŵyl yn dangos sut mae parch, goddefgarwch ac amrywiaeth yn werthoedd Cymreig,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl bod o’n grêt gweld gwyliau balchder lleol yn popio i fyny ar draws Cymru.

“Dw i wedi bod i rai yn Llanilltud Fawr, Bangor, y Barri, Abertawe… Mae’n ffantastig!

“Ond mae’n wych gweld pawb yn dod at ei gilydd ar gyfer un digwyddiad cenedlaethol ac mae yna symbolaeth gref i fi ein bod ni reit tu allan i Neuadd y Ddinas, reit yng nghanol y ddinas.

“Mae hynny’n dangos pa mor bell rydyn ni wedi dod.

“Mae’n anhygoel bod yn ôl.

“Mae e jest yn grêt dod yn ôl at ein gilydd i ddathlu be’ rydyn ni wedi cyflawni, ond hefyd i brotestio be’ sydd i ddod a brwydro dros hawliau’r gymuned LDHTC+ yma ac o amgylch y byd.

“Rydyn ni’n meddwl mai hwn fydd ein mwyaf erioed ac rydyn ni’n rili edrych ymlaen at y penwythnos.”

Ymestyn y cysylltiad gyda’r iaith Gymraeg

Bydd S4C yn noddi gorymdaith Pride Cymru eleni, a hynny am y tro cyntaf erioed.

Ond mae Dan Walsh yn dweud eu bod nhw’n awyddus i ymestyn eu cysylltiad gyda’r iaith Gymraeg.

“Mae hynny’n amlwg yn bwysig i ni ond rydyn ni eisiau gwneud hynny mewn ffordd ddilys ac amrywiol,” meddai.

“Nid ni ydy’r arbenigwyr ar hynny, felly rydyn ni eisiau gweithio gyda phawb yn y gofod Cymraeg yna i’w gael o’n iawn.”