Yn dilyn trafodaeth yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan eleni ynglŷn â’r cyswllt uniongyrchol rhwng rhyfel, y diwydiant arfau a newid hinsawdd, dyma Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod, yn ymhelaethu ar y mater…


Yn rhyfeddol, prin yw’r ymchwil na’r wybodaeth gyffredinol sydd ar gael yn gyhoeddus am y cyswllt rhwng newid hinsawdd a militariaeth, ond mae effaith rhyfel a’r diwydiant arfau ar newid hinsawdd i’w weld ar sawl lefel; boed hynny o’r deunydd crai a’r egni sydd ei angen i gynhyrchu arfau, i’r llygredd a’r carbon deuocsid sy’n cael ei gynhyrchu trwy hyfforddiant milwrol a rhyfeloedd. Mae’n rhaid hefyd ystyried y difrod mae rhyfel yn ei achosi i’r amgylchedd a sut y gall newid hinsawdd ei hun arwain at wrthdaro a rhyfeloedd yn y dyfodol.

Un o’r prif resymau nad oes llawer o wybodaeth na data agored ar gael ynglŷn â’r cyswllt rhwng newid hinsawdd a militariaeth yw fod gwladwriaethau yn anfodolon rhannu gwybodaeth am resymau ‘diogelwch’. Felly, prin yw’r atebolrwydd am weithredoedd byddinoedd ar draws y byd, ac ers Protocol Kyoto 1997 yng nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, nid oes angen i wledydd gynnwys eu gweinyddiaeth amddiffyn ac felly’r diwydiant arfau yn eu targedau allyrru.

Y diwydiant arfau

Er yn brin, mae yna ymchwil cadarn sy’n dangos y cysylltiad rhwng newid hinsawdd a’r diwydiant arfau. Amcangyfrifir bod 5.5% o allyriadau byd-eang yn dod o filitariaeth, sef 2.2bn tunnell o garbon deuocsid. Er mwyn rhoi hynny mewn cyd-destun, mae’r diwydiant hedfan yn cynhyrchu 2.2% o allyriadau byd-eang, gydag effaith y diwydiant hwnnw ar y blaned yn cael ei graffu’n gyson. Ymhellach, mae ymchwil diweddar o Brifysgol Durham yn ategu sut y gall militariaeth niweidio’r hinsawdd. Mae’r ymchwil yn datgelu, pe bai byddin yr Unol Daleithiau yn wlad, nhw fyddai’r wlad fwyaf o ran cynhyrchu allyriadau carbon, sef 42 metrig o garbon deuocsid y pen.

A beth am yr hyn sy’n digwydd yn agosach at adref, le mae lle i gredu bod hyd at 50% o allyriadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael eu cynhyrchu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn? Mae’r Fyddin Brydeinig yn allyrru tua 11m tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn, sy’n gyfystyr â mwy na 60 o wledydd eraill, gyda 30% o’r allyriadau hynny yn cael eu cynhyrchu gan BAE Systems, sydd â phresenoldeb amlwg yng Nghymru.

Wrth graffu’n fanylach, ystyriwch yr allyriadau a ddaw o F-35 Fighter jet, sy’n aml yn ymarfer uwchben tir ac arfordir gorllewin Cymru. Ar gyfartaledd, mae un hediad F-35 yn gyfystyr â faint o garbon deuocsid mae car cyffredin yn ei allyrru mewn blwyddyn.

Niwed i’r hinsawdd a’r amgylchedd

Cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig yn 2020 fod yna gyswllt uniongyrchol rhwng newid hinsawdd a rhyfel, gyda Miroslav Jenča, yr Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, yn datgan fod “newid hinsawdd yn gwaethygu gwrthdaro presennol ac yn debygol o arwain at ryfeloedd newydd”. Un rheswm amlwg am hynny yw prinder dŵr, gydag ymchwil yn nodi bod tebygolrwydd hyd at 95% y bydd yna ryfel oherwydd prinder dŵr yn ystod y can mlynedd nesaf. Bu tensiynau eisoes dros gyflenwadau dŵr yn rhyfel cartref Syria, a gallai’r anghydfod parhaus ar hyd afon Nile ddwysáu i fod yn llawer mwy difrifol.

Mae rhyfel a gwrthdaro hefyd yn difrodi’r amlgychedd, ac yn amlwg mae’r bygythiad real a ddaw o arfau niwclear a’r dinistr pellgyrhaeddol y gall hynny ei greu i’r ecosystem yn anodd i’w amgyffred yn llawn. Ond mae’r gwledydd sydd dan y bygythiad mwyaf yn sgil effeithiau amgylcheddol hefyd yn fwy tebygol o ddioddef effeithiau rhyfel o ganlyniad. Ers 2008, mae Prydain wedi danfon gwerth £1bn o offer milwrol i 39 o 40 o’r gwledydd sydd fwyaf agored i effeithiau newid hinsawdd, gwledydd fel Pacistan a Somalia.

Mae’n rhyfeddol cyn lleied o sylw mae’r mater hwn yn ei dderbyn o fewn y drafodaeth ynglŷn â thaclo newid hinsawdd a chan grwpiau ymgyrchu. Dydy’r uchod ddim ond yn crafu’r wyneb, ond mae angen dechrau sicrhau atebolrwydd ynglŷn â’r cysylltiad rhwng newid hinsawdd a’r diwydiant arfau, a’r modd mae rhyfeloedd yn difetha ein planed.