Mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, yn galw am wirfoddolwyr iechyd meddwl yng nghefn gwlad.

Cafodd yr elusen DPJ ei sefydlu i gefnogi gweithwyr amaeth a chymunedau gwledig Cymru â phroblemau iechyd meddwl, a hynny mewn ffordd hygyrch wedi’i theilwra ar gyfer anghenion yr unigolyn.

Fe fu Mabon ap Gwynfor yn Sioe Meirionnydd yn Harlech gyda Kate Miles a Tamzyn Lawrence o’r elusen i drafod gwaith allgymorth lleol a’r angen i ddenu mwy o wirfoddolwyr ar draws ardaloedd gwledig Meirionnydd.

Cafodd yr elusen ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn marwolaeth trwy hunanladdiad y contractwr amaethyddol Daniel Picton Jones, a’r anawsterau mae’r rhai sy’n gweithio yn y gymuned amaethyddol yn eu hwynebu wrth geisio cael cymorth iechyd meddwl amserol.

Ers hynny, mae’r gwasanaeth wedi ehangu i ddarparu llinell gymorth gyfrinachol 24 awr wedi’i staffio gan wirfoddolwyr wedi’u hyfforddi gan y Samariaid a gwasanaeth cwnsela naill ai ar y fferm, ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Mae’r elusen yn darparu gwasanaeth dwyieithog ledled Cymru.

‘Blaenoriaeth i bawb’

“Rwy’n hynod o falch o gynrychioli cymunedau amaethyddol yn Nwyfor Meirionnydd ac yn cydnabod yn llwyr bwysigrwydd diogelu iechyd meddwl y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau gwledig,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Dylai cymryd iechyd meddwl o ddifrif fod yn flaenoriaeth i bawb, a thra bod ffermio’n ddiwydiant gwych i weithio ynddo, gall pwysau a natur ynysig y gwaith fod yn hynod heriol ac mae cefnogaeth yn hanfodol.

“Dyna pam mae sefydliadau fel Sefydliad DPJ wedi dod yn gonglfaen cefnogaeth i’n cymunedau gwledig, amaethyddol, gan godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig a chael gwared ar y stigma sydd o’i gwmpas.

“I gynnal ac adeiladu ar y rhwydwaith presennol o wirfoddolwyr, mae Sefydliad DPJ bob amser yn chwilio am fwy o bobol i gefnogi eu gwaith a chodi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ar draws cymunedau Gwynedd.

“Amaethyddiaeth sydd â’r gyfradd uchaf o hunanladdiadau, felly mae mynediad at gymorth amserol o fewn cymunedau gwledig yn hollbwysig.

“Apeliaf ar unrhyw un, yn enwedig y rhai sy’n byw ym Meirionnydd, sy’n meddwl y gallant gefnogi gwaith Sefydliad DPJ i estyn allan i’r elusen a gwirfoddoli.”

‘Rhannu’r Baich’

“Rydym yn hynod falch o’n llinell gymorth Rhannu’r Baich a’n gwasanaeth cwnsela rhad ac am ddim; fodd bynnag, dim ond os yw pobl yn gwybod amdano ac yn barod i gysylltu â nhw y bydd o gymorth,” meddai Kate Miles, Rheolwr Elusennol Sefydliad DPJ.

“Dyna pam rydym yn galw am fwy o wirfoddolwyr o ardal Meirionnydd i’n helpu i godi ymwybyddiaeth o’n gwasanaethau, yn enwedig yng Ngorllewin y rhanbarth.

“Bydd hyn yn golygu mynd i sioeau a digwyddiadau i siarad â phobl am yr hyn rydym yn ei wneud a sut y gallent gael mynediad at ein gwasanaethau fel Hyrwyddwr Rhanbarthol, yn hytrach na darparu unrhyw gymorth eu hunain.

“Mae gennym ni bobl o gefndiroedd amrywiol yn ein tîm, er bod gan y rhan fwyaf gysylltiad ag amaethyddiaeth, mae pob un yn frwd dros helpu i herio’r stigma sy’n ymwneud ag iechyd meddwl gwael.

“Rydym yn falch o gael cefnogaeth ein Haelod o’r Senedd yn y maes hwn i’n helpu i recriwtio Hyrwyddwyr ychwanegol i’n tîm.”