Mae criw o Gymru sy’n wynebu oedi hir cyn hedfan yn ôl i’r Deyrnas Unedig yn disgrifio’r profiad fel “hunllef”.

Er bod y broblem gyda system rheoli gofod awyr y Deyrnas Unedig wedi cael ei datrys o fewn ychydig oriau, gallai effaith yr oedi barhau am rai dyddiau.

Mae ymchwiliad wedi dechrau i’r broblem dechnegol arweiniodd at orfod canslo cannoedd o awyrennau ddoe (dydd Llun, Awst 28).

Cafodd dros chwarter yr hediadau i mewn ac allan o feysydd awyr gwledydd Prydain eu canslo ddoe, ac mae hi am gymryd amser i bethau ddod i drefn gan fod staff ac awyrennau allan o’u lle.

Mae Chloe Condy o Gaerffili ymysg criw o 21 sydd yn sownd yn Gran Canaria, ac wedi disgrifio’r profiad fel “hunllef”.

“Bron â chrio! Dydyn ni methu cael gafael ar unrhyw un o EasyJet, neb ar gael, a does yna ddim awyrennau’n ôl i Fryste tan Fedi 9,” meddai wrth golwg360.

“Does dim lle yn ein gwesty chwaith, felly rhaid i ni ffeindio rhywle arall i aros heno. Hunllef.

“Lwcus, dydyn ni ddim yn sownd yn y maes awyr ond does gennym ni ddim syniad beth sy’n mynd ymlaen.

“Does gennym ni ddim syniad o gwbl pryd fyddwn ni’n gadael, waiting game.

Mae Chloe Condy a’i theulu wedi bod ar wyliau yn Gran Canaria ers deng niwrnod, ac mae ei phlant, Oscar sy’n naw oed a Beau sy’n bedair, gyda hi ym mharc gwyliau Puerto Rico de Gran Canaria.

“Roedd pawb yn edrych ymlaen, ond nawr rydyn ni’n styc yn trio ffeindio rhywle i aros,” meddai.

‘Peidio gwybod ydy’r peth gwaethaf’

Un arall sydd heb lawer o syniad beth yw’r camau nesaf ar hyn o bryd ydy Ffion Pennant o Ddolgellau, sy’n disgwyl i ddychwelyd o Tenerife.

Roedden nhw fod i hedfan yn ôl am 9:45 neithiwr gyda chwmni Jet2.com, ac wedi cyrraedd y maes awyr cyn clywed bod yr awyren wedi’i chanslo am tua 7:30.

“Fe wnaethon nhw ddweud wrthym ni aros yn y maes awyr iddyn nhw ffeindio gwesty i ni, ac wedi cael gwybod am 00:30 bod gwesty i fynd i’r gwely tua 3 bore yma,” meddai Ffion, sy’n athrawes.

“Wedi cael gwybod bod brecwast i ni bore yma, ond heb gael mwy o wybodaeth felly does gennym ni ddim syniad beth sy’n digwydd ar y funud.”

Dywedodd Ffion bod y gwesty yn aros i Jet2.com gysylltu efo nhw i weld os oes angen iddyn nhw aros heno hefyd, ond os na chawn nhw fwy o wybodaeth bydd rhaid iddyn nhw adael y gwesty am hanner dydd.

“Y ddim gwybod ydy’r peth gwaethaf. Gobeithio fydda i adre i fynd i ddysgu ddydd Gwener!

“Rhaid i fi ddweud bod Jet2 wedi bod reit dda i gymharu efo rhai eraill, ond rydyn ni wedi cael gwybod efallai y bydd o hyd at chwe diwrnod.”

‘Wyth awr o daith o Iwerddon’

Roedd Elin Roberts o Lan Ffestiniog yn disgwyl hedfan o Belffast i Lerpwl am 9 o’r gloch neithiwr (nos Lun, Awst 28), ond cafodd yr hediad ei ganslo.

Er hynny, mae hi’n dweud eu bod nhw wedi bod “reit lwcus” o gymharu ag eraill.

“Roedd gennym ni’r opsiwn o gael ffleit adre am 10 heno, ond rydyn ni wedi dewis cael y cwch adre heddiw yn lle,” meddai wrth golwg360.

“Wyth awr yn ôl i Lerpwl yn lle 30 munud!

“Ond gaethon ni AirBnb rhad am y noson.

“Rydyn ni’n hapus i fod yn dod adre ond roedd o’n eithaf stressful prynhawn ddoe peidio gwybod.”