Mae problemau technegol y Gwasanaeth Traffig Awyr Cenedlaethol (NATS) yn effeithio ar hediadau Maes Awyr Caerdydd ar hyn o bryd.

Yn ôl y gwasanaeth, mae’r nam technegol yn effeithio ar eu gallu i brosesu hediadau’n awtomatig, a’i bod hi’n cymryd yn hirach nag arfer i fewnbynnu manylion.

O ganlyniad, maen nhw wedi rhoi cyfyngiadau teithio ar waith, sy’n golygu bod oedi ar nifer o hediadau a bod eraill wedi’u canslo.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n ceisio datrys y sefyllfa “mor gyflym â phosib”.

“Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pob hediad yn y Deyrnas Unedig yn parhau’n ddiogel, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r effeithiau,” meddai’r gwasanaeth mewn datganiad.

Wrth ymddiheuro, maen nhw’n cynghori teithwyr i gysylltu â’u cwmni awyr am ragor o wybodaeth ynghylch sut fydd y sefyllfa’n effeithio ar eu hediadau.

Cwmni teithio’n ymddiheuro

Ar y cyfryngau cymdeithasol, mae teithwyr yn dweud nad ydyn nhw’n derbyn gwybodaeth ddigonol am y sefyllfa ar hyn o bryd.

“O ganlyniad i ddiffoddiad Rheoli Traffig Awyr ledled meysydd awyr y Deyrnas Unedig, rydym yn disgwyl y bydd hyn yn achosi cryn oedi i rai o’n hediadau,” meddai cwmni teithio TUI wrth ymateb i gwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Hoffem gynghori cwsmeriaid i fonitro byrddau ymadael neu eich e-bost am ragor o ddiweddariadau.

“Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra gaiff ei achosi.”

Maen nhw’n cynghori pobol fod rhaid i awyrennau giwio cyn bod modd iddyn nhw adael.