Mae ffotograffwyr o Gymru, Catalonia a’r Alban wedi bod wrthi’n tynnu lluniau sy’n cyfleu eu teimladau tuag at annibyniaeth i’w gwledydd.

Cafodd y gwaith ei arddangos dros dro yn y bandstand yn Aberystwyth, a hon oedd yr arddangosfa ffotograffiaeth gyntaf yn y byd ar annibyniaeth, yn ôl y trefnwyr.