“Doeddwn i ddim yn gwybod bob dim am wleidyddiaeth pan wnes i gychwyn a dydych chi ddim angen gwybod popeth…”

Luned-Mair Barratt a Brandon Ham yw cyd-Gadeiryddion Plaid Ifanc eleni ac maen nhw yn gobeithio ysbrydoli mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Plaid Ifanc yw cangen ieuenctid Plaid Cymru, ac maen nhw yn ethol pwyllgor yn ystod mis Ebrill bob blwyddyn er mwyn adeiladu ar bolisïau’r Blaid a’u hanelu at bobl ifanc.