Bu i ugain o ddynion dewr gytuno i gael tynnu eu lluniau gyda dim byd ond peli a geiriach rygbi i guddio eu mannau tyneraf…

 Drwy greu calendr o’r chwaraewyr ac aelodau’r pwyllgor yn noeth, mae Clwb Rygbi Crymych wedi llwyddo i godi dros £30,000 at achos sy’n agos iawn at galonnau’r gymuned gyfan draw yn Sir Benfro.

Cafodd Owen James, mab chwech oed rheolwr y tîm cyntaf, ei eni â Syndrom Pitt-Hopkins, anhwylder niwrolegol prin sy’n arafu ei ddatblygiad, ac mae’r arian o werthu’r calendrau’n mynd i’w helpu.

Bydd y £30,000 yn cael ei ddefnyddio i dalu am anghenion Owen, a darparu offer a’r gefnogaeth angenrheidiol gyfer ei ddatblygiad a’i les.

Yn ôl Iwan James, tad Owen, mae’r gefnogaeth wedi bod yn syfrdanol, ac mae’r teulu’n hynod ddiolchgar i’r clwb a’r gymuned am eu haelioni.

Mae Owen, sy’n ddisgybl yn Ysgol Arbennig Portfield yn Hwlffordd, yn gwirioni ar rygbi ac yn un o wylwyr selog gemau cartref Crymych. Roedd y clwb yn awyddus i wneud rhywbeth i gefnogi’r teulu, a syniad Carwyn Rees, un o’r chwaraewyr, oedd creu’r calendr.

“Dw i’n gweithio ym [maes] dylunio ac roeddwn i’n gwybod y bydden i eisiau gwneud y mwyafrif o’r gwaith fy hunan, ac roedd eisiau i ni fel tîm, roeddwn i’n teimlo, wneud rhywbeth i gefnogi Iwan a’r teulu,” eglura Carwyn, sy’n chwarae yn safle’r bachwr i dîm cyntaf Crymych.

“Mae Owen yn gwylio ni bob gêm ac roedden ni’n meddwl ei bod hi’n hen bryd i ni wneud rhywbeth.

“Roeddwn i’n meddwl be fedrwn i wneud yn bersonol, fy mod i ddim yn gorfod haslo gormod o bobol am help. Fe wnes i decstio cwpwl o’r chwaraewyr hynaf i ddechrau i weld be oedden nhw’n meddwl, a’r hyfforddwyr, roedd pob un dweud bod e’n syniad da.”

Cafwyd y ffotograffydd proffesiynol Kevin Vaughan i dynnu’r lluniau un prynhawn Sul, ac fe wnaeth dros ugain o ddynion gytuno i gael tynnu eu lluniau gyda dim byd ond peli a gwahanol eitemau’n ymwneud â rygbi i guddiad eu mannau tyneraf.

“Fe wnaethon ni hefyd holi’r pwyllgor, ac fe wnaeth ryw naw ohonyn nhw gytuno. Mae’r dyn hynaf ynddo fe yn ei chwe degau,” esbonia Carwyn.

“Dw i wedi chwarae i’r clwb ers oeddwn i’n bump, mae fy nhad yn y calendr hefyd achos mae e ar y pwyllgor!

“Gaethon ni lot o sbort, diwrnod llawn chwerthin. Fel arfer, amser rydyn ni’n cwrdd lan fel tîm mae popeth yn eithaf siriys – trafod tactegau a phethau. Roedd hi’n neis i ni gwrdd lan a chael gwd sbort, ambell un yn troi lan wedi cael fake tan, un neu ddau wedi bod yn cael wacsio a rhyw bethau fel hynny.

“Rydyn ni wedi trio cynnwys bob un yn y calendr cwpwl o weithiau, doedden ni ddim moyn un person ar gyfer pob mis. Roedden ni moyn dangos y tîm cyfan. Mae pob un ynddo fe ddwy neu dair gwaith.”

Ac fe ddaeth y chwaraewyr yn agosach fel tîm wrth gael tynnu eu lluniau yn noeth, meddai Carwyn.

“Sa i’n credu bod yr un ohonom ni wedi gwneud dim byd fel yna o’r blaen, doedden ni ddim yn siŵr sut aethai hi. Ond aeth hi’n iawn, fe wnaeth bob un joio dw i’n credu.

“Pan rydych chi’n chwarae rygbi rydych chi’n trefnu lot o nosweithiau cymdeithasol, cwpwl o beints a phethau felly. Ond dw i’n credu y gaethon ni fwy o sbort a jocan a bondio fel yna’n gwneud hwn nag yn gwneud unrhyw beth arall.”

‘Lwcus o’r gymuned’

Mae Clwb Rygbi Crymych wedi cyflwyno siec am £30,000 i Iwan a’i bartner Jemma, a bydd yr arian yn “mynd yn bell” tuag at ddarparu’r gefnogaeth a’r adnoddau sydd eu hangen ar Owen. Mae Syndrom Pitt Hopkins yn gyflwr prin iawn, a gall effeithio ar allu plentyn i gerdded ac ar ei lefaredd, ynghyd ag achosi anabledd deallusol.

“Cafodd Owen ei eni gyda Syndrom Pitt Hopkins sydd yn gohirio ei ddatblygiad Owen,” meddai Iwan ei dad. “Mae e’n gyflwr prin, dyw e ond yn effeithio un ymhob 250,000 o bobol. Doeddwn i ddim wedi clywed amdano fe erioed o’r blaen.

“Mae Owen yn chwe blwydd oed ar y funud, dyw e ddim yn cerdded, dyw e ddim yn siarad. Mae e’n gallu cyfathrebu wrth wahanol synau a phethau fel yna.

“Ond mae’n fachgen hapus yn ei hunan, dyw e ddim yn gwybod gwahaniaeth. Mae e’n mynd i’r ysgol yn Portfield yn Hwlffordd i blant gydag anghenion. Mae’n cael gofal grêt lawr yna, mae’n datblygu bob dydd lawr yna. Maen nhw’n gwneud jobyn gwych yn Portfield.”

Mae Iwan yn rheolwr ar brif dîm rygbi Crymych ers tua chwe blynedd, ac wedi bod yn chwarae i’r clwb am flynyddoedd cyn hynny. Ac mae yn amlwg fod gan y mab yr un diddordeb.

“Bywyd Owen ydy pêl, mae e’n joio gweld pêl,” meddai ei dad.

“Rydyn ni wedi prynu bob math o deganau iddo ond s’dim byd yn gwneud y tro oni bai am bêl. Mae e’n dod lawr bob dydd Sadwrn pan mae Crymych yn chwarae adref. Mae Owen yn dod lawr bob dydd Sadwrn ac mae e wrth ei fodd, yn gwylio’r gêm o’r dechrau i’r diwedd.”

Cynhaliwyd ocsiwn yn ystod lansiad y calendr yng Nghlwb Rygbi Crymych, a rhwng hynny a gwerthu’r calendr, codwyd tua £18,000 yn syth.

Ac roedd Iwan dan deimlad o weld yr haelioni.

“Fi ynghlwm gyda’r bois, dw i’n gweld nhw bron yn wythnosol. Roeddwn i’n overwhelmed bod y bois eu hunain moyn gwneud rhywbeth i helpu ni, ac eithaf emosiynol, yn enwedig ar noswaith y lansio a’r arian gafodd ei godi’n ystod y noson. Roedd e’n grêt i weld, ac rydyn ni’n lwcus gyda ble rydyn ni’n byw a’r gymuned sydd o’n hamgylch ni yn fan hyn. Rydyn ni’n lwcus, lwcus iawn.”

Mae Owen angen offer i’w helpu i symud o amgylch y tŷ, ac mae’r teulu eisoes wedi prynu dau ‘walker’ i’w helpu – a’r diwethaf yn costio bron i £3,000.

“Mae e fel walker babi ond i blentyn mwy o faint,” eglura Iwan. “Fel bydd e’n tyfu, bydd e angen rhai newydd arno fe fel mae’n mynd yn fwy o faint. Rydyn ni’n ail-wneud y tŷ gartref hefyd, rydyn ni’n gosod rampiau yn y drysau ble mae eisiau rampiau a rheilen, wedyn gobeithio bydd e’n gallu shyfflo o gwmpas y lle’n defnyddio’r rheiliau.”

Er bod hogiau’r clwb rygbi i gyd yn barod i dynnu eu dillad a thynnu llun, roedd angen ychydig mwy o berswâd ar Iwan.

“Roedd e’n ddiwrnod llawn sbri, ac fe wnaethon nhw gael fi mewn yn y calendr ar ddiwedd y dydd. Doeddwn i ddim moyn bod, ond am wn i fod rhaid i fi fod!”

Owen, Iwan, Gwenan, Carwyn a Jemma

‘Cefnogaeth wych’ 

Cafodd chwe chant o’r calendrau eu hargraffu i ddechrau, ond erbyn hyn mae 800 wedi cael eu gwerthu a’r ymgyrch wedi bod yn un andros o lwyddiannus. Gwenan Davies, sy’n wreiddiol o Fydroilyn ger Llanarth yng Ngheredigion ond bellach yn byw yng Nghrymych, sy’n gyfrifol am gyfryngau cymdeithasol y clwb ac wedi bod wrthi’n hyrwyddo’r calendr a’r ymgyrch i godi arian.

“Dyma’r tro cyntaf i ni wneud calendr noeth o’r fath, ac mae llwyddiant y peth wedi dangos bod e’n neis gwneud rhywbeth gwreiddiol o dro i dro, a rhywbeth gwahanol i’r ardal. Rydyn ni wedi gwerthu cannoedd ar gannoedd ohonyn nhw, maen nhw wedi bod yn boblogaidd dros ben,” meddai Gwenan.

“Mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych. Rydyn ni wedi gwerthu’r olaf o’r stoc, a phobol yn prynu calendr dri neu bedwar mis i mewn i’r flwyddyn i gefnogi.

“Gaethon ni sbort ofnadwy, y bois yn joio. Roedd e’n rhyw fath o team bonding doedden nhw ddim wedi’i ddisgwyl, ar ganol y tymor, sa i’n meddwl!”