Am y tro cyntaf erioed yng ngwledydd Prydain, mae criw o bobol ifanc sydd wedi cael eu mabwysiadu wedi creu podlediad yn trafod eu profiadau personol.
A’r Cymry ifanc eu hunain sy’n cyflwyno’r gyfres ddwyieithog Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu.
Ac mae un gafodd ei mabwysiadu wedi dweud wrth Golwg bod angen gwella dealltwriaeth pobol am sefyllfa’r rhai sydd wedi eu mabwysiadu.
Yn y gyfres bodledu chwe phennod mae rhieni a phobl ifanc sydd wedi eu mabwysiadu yn trafod amryw o bynciau megis creu cysylltiadau, addysg a delio gyda thrawma.
Ym mhennod olaf y gyfres mae naw person ifanc mabwysiedig, rhwng 13-26 mlwydd oed ac o bob rhan o Gymru, yn trafod eu profiadau.
Un o’r rhain yw Mimi Woods sy’n 22 oed ac yn hanu o Rydaman yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd Mimi ei mabwysiadu o dramor pan oedd hi’n dair oed ac mae wedi bod yn siarad am ei bywyd gyda Golwg.
“Pan oeddwn i’n tyfu i fyny doeddwn i byth wir yn gweld na chlywed am lawer o bobl oedd wedi eu mabwysiadu na phobl amlddiwylliannol yn yr ardal – fi oedd yr unig un am amser hir,” meddai Mimi.
“Mae’n sicr yn anodd trio dod o hyd i synnwyr o bwy wyt ti, yn enwedig yn yr ysgol pan mae pawb arall yn gwybod lot am eu cefndir. Roedd hynny’n anodd iawn i mi.”
Dywedodd Mimi ei bod hi wedi bod yn rhan o grŵp cymorth Connected y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ers ei bod hi’n chwe blwydd oed, ac o ganlyniad doedd hi ddim ofn siarad am ei phrofiadau yn blentyn – ond mi newidiodd hynny wrth iddi aeddfedu.
“Fel ro’n i’n mynd yn hŷn ac yn dechrau dioddef efo fy iechyd meddwl, ro’n i yn teimlo dipyn bach fel fy mod i ddim eisio siarad am y peth.
“Doeddwn i ddim yn nabod neb arall oedd wedi cael eu mabwysiadu ac oedd yn dioddef gyda’u hiechyd meddwl, a ro’n i’n dechra’ meddwl efallai bod o ddim yn normal.
“Doedd e ddim tan i fi ymuno efo’r grŵp Connected hyn a chlywed pawb arall yn siarad am eu hiechyd meddwl, tan wnes i sylwi: ‘Dim jest fi yw e’. Ac roedd e’n rhyddhad mawr,” meddai.
Dywed bod y cyfle i siarad allan am ei phrofiadau a chwrdd â phobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg wedi ei hannog hi i fod yn llysgennad ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, y corff sy’n gyfrifol am wasanaethau mabwysiadu Cymru.
Mae Mimi am rannu ei hanes er mwyn helpu eraill.
“Boed o’n stori fi neu un rhywun arall, mae pawb yn y grŵp yn mynd trwy’r un peth ac mae’n debyg bod rhywun arall yn gwrando ac yn gallu uniaethu gyda beth sy’n cael ei ddweud.
“Gobeithio gallan nhw wedyn dderbyn y cymorth neu’r gefnogaeth maen nhw ei angen neu ymuno ag un o’r grwpiau neu hyd yn oed ymgyrchu am newid.
“Mae e wedi bod yn brofiad positif i fi pan ro’n i’n teimlo fel mai fi oedd yr unig un.”
Bu rhai yn neidio i gasgliadau mawr o glywed bod Mimi wedi ei mabwysiadu, meddai.
“Pan ti’n dweud wrth bobl dy fod ti wedi cael dy fabwysiadu mae o fel ‘oeddet ti’n blentyn troubled’, a ‘dwyt ti ddim am lwyddo mewn bywyd’.
“Ryden ni eisiau profi’r stereoteip bod pobl sydd wedi cael eu mabwysiadu ddim yn cyflawni cymaint, yn anghywir.
“Mae yna ganran uchel ohonom ni yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ac mae gennym ni ein brwydrau, ond rydan ni’n union fel pawb arall o’n cwmpas ni.”
Nid yw Mimi yn credu bod yna ddigon o therapyddion arbenigol ar gael i helpu gyda phlant sydd wedi eu mabwysiadu.
Mae angen i therapydd effeithiol ddeall amodau mabwysiadu yn well, meddai.
“Maen nhw’n aml yn anwybyddu’r elfen mabwysiadu ac yn gofyn beth mae fy ffordd o fyw i fel a faint o ymarfer corff dw i’n ei wneud, heb edrych i mewn i drawma.
“Mae’r ffaith fy mod i wedi cael fy mabwysiadu yn ffactor mawr yn fy mywyd ac mae angen dod o hyd i wraidd y broblem ac nid anwybyddu’r peth.
“Mae’n bwysig gallu siarad am y peth a theimlo’n hyderus ynddo er mwyn gallu ei dderbyn yn well.”
“Lot o bobl yn gweld mabwysiadu fel rhywbeth negyddol”
Un arall o griw Connected sydd wedi siarad yn agored am ei phrofiadau ar y podlediad yw Ellie-Rose Griffiths, sy’n 22 oed ac yn astudio i fod yn barafeddyg.
Ac mae hi’n cytuno gyda Mimi o ran y diffygion y drefn o gynnig therapi i rai sydd wedi ei mabwysiadu.
“Mae yna lot o gyfleoedd i weld therapyddion ond maen nhw’n eithaf cyffredinol a dw i ddim yn meddwl bod yna lawer ohonyn nhw’n arbenigo mewn mabwysiadu neu’n gwybod llawer amdano,” meddai Ellie-Rose.
“Weithiau maen nhw’n dweud: ‘ti’n ymddwyn y ffordd wyt ti oherwydd dy fod di wedi cael dy fabwysiadu’. Ond tydi hynny ddim yn helpu llawer achos rwyt ti eisiau gofyn pam wyt ti’n teimlo’r ffordd wyt ti.”
Dywed Ellie-Rose bod cael trafod ei phrofiadau a’i theimladau yn y grŵp Connected wedi bod yn gyfle hollbwysig.
“Mae e’n beth mor bositif i wneud. Ti’n mynd i’r grŵp lle mae yna bobl fel ti a ti’n gallu bod yn ti dy hun heb ddim beirniadaeth o gwbl.
“Ti’n gallu siarad am fabwysiadu os wyt ti eisiau ac mae yna lot o gymorth ar gael os wyt ti ei angen e.”
Fodd bynnag, mae hi’n credu bod yna dal camsyniadau a diffyg addysg am fabwysiadu ymysg y cyhoedd.
“Ro’n i’n meddwl ei fod e’n bwysig siarad allan am y peth oherwydd dw i’n meddwl bod yna lot o bobl yn gweld mabwysiadu fel rhywbeth negyddol,” meddai.
“Dw i’n cofio ffeindio allan pan oeddwn i yn tua blwyddyn pedwar [yn yr ysgol gynradd] fy mod i wedi cael fy mabwysiadu ac roedd rhai o’n ffrindiau i’n gofyn ‘pwy ydi dy fam go-iawn di felly?’
“Chwilfrydedd yw e i lot o bobol mewn gwirionedd, ac nid pobl yn bod yn annifyr neu’n gas yn fwriadol. Ond doeddwn i ddim yn hyderus iawn yn siarad am y peth pan o’n i’n ifanc.
“Dw i’n meddwl bod y term ‘go-iawn’ yn bwysig o ran pwysleisio mai fy rhieni go-iawn i ydi’r rhai sydd wedi fy magu i fod yn y person yr ydw i heddiw.”
“Rhannu straeon byth yn hawdd, ond yn bwysig”
Bwriad Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru wrth ryddhau’r podlediadau yw rhannu profiadau pobl ifanc sydd wedi eu mabwysiadu, er mwyn addysgu’r cyhoedd.
Ac mae Cyfarwyddwr y Gwasanaeth yn pwysleisio bod gwrando ar lais y bobol ifanc hyn yn hollbwysig.
“Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn falch o’r ffaith bod llawer o’r newidiadau mewn mabwysiadu sydd wedi digwydd yng Nghymru wedi digwydd o ganlyniad i wrando ar ein defnyddwyr gwasanaeth ac ymateb i’r hyn y maent yn ei ddweud wrthym,” meddai Suzanne Griffiths.
“Rydym felly wrth ein bodd bod y bobl ifanc wedi cael y cyfle i fod yn rhan o’r podlediad hwn ac wedi teimlo y gallant rannu eu meddyliau a’u teimladau gyda ni mewn ffordd mor agored a gonest. Mae eu straeon mor bwysig nid yn unig i’n helpu ni i ddeall, ond hefyd i unrhyw un sy’n meddwl am fabwysiadu ddysgu sut deimlad yw hi i’r plant a’r bobl ifanc.”
Ac mae Cyfarwyddwr Adoption UK Cymru, wrth ei bodd gyda’r podlediad yma sy’n torri tir newydd.
“Rydym wedi ein syfrdanu gan y bobl ifanc hyfryd o bob rhan o Gymru sydd wedi cymryd rhan yn y podlediad,” meddai Ann Bell.
“Nid yw byth yn hawdd iddynt rannu eu straeon, gall fod yn drawmatig ac yn gynhyrfus.
“Mae un o’r bobl ifanc, Keira May, yn edrych ymlaen at rannu’r podlediad yn ei gwasanaeth ysgol. Mae’n gobeithio y bydd yn helpu eraill i ddysgu am fabwysiadu a sut brofiad yw cael eich mabwysiadu.
“Rydym yn hynod falch o wasanaeth Connect a’r ffordd y maent wedi cefnogi’r bobl ifanc i gymryd rhan ar bob cam.”
Mae mwy o straeon gan bobl ifanc wedi eu mabwysiadu ar gael i wrando arnyn nhw ar wefan a sianel YouTube Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru.
Y Gwasanaeth Mabwysiadu
Fe gafodd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ei greu yn 2014 gan ddod â gwasanaethau mabwysiadu cynghorau sir Cymru ynghyd mewn strwythur tair haen sy’n cynnwys partneriaethau ar bob lefel ag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol Cymru, gwasanaethau iechyd ac addysg yn ogystal ag eraill.
Yn lleol, mae pob cyngor sir yn parhau i ddarparu gwasanaethau i bob plentyn sy’n derbyn gofal tra’n nodi a gweithio gyda’r plant hynny y mae cynllun mabwysiadu yn briodol ar eu cyfer.
Yn rhanbarthol wedyn, mae’r cynghorau sir yn cydweithio o fewn pum menter gydweithredol ranbarthol i ddarparu ystod o wasanaethau mabwysiadu. Mae’r gwasanaethau sydd ar gael yn amrywio ym mhob grŵp cydweithredol, ond mae pob un yn darparu swyddogaethau’r asiantaeth fabwysiadu ar gyfer plant, yn recriwtio ac yn asesu mabwysiadwyr, yn cynnig cwnsela i rieni biolegol a chyngor i oedolion mabwysiedig. Ar hyn o bryd mae rhai yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn uniongyrchol tra bod hyn yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i gynghorau sir mewn eraill. Mae gan bob cydweithrediad rhanbarthol gysylltiadau â’r asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol, iechyd ac addysg.
Yn genedlaethol, mae’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau a thîm canolog bach, a gynhelir gan Gyngor Dinas Caerdydd ar ran pob un o’r 22 cyngor sir yng Nghymru. Maen nhw yn darparu cyfeiriad, datblygiad a chydlyniad cenedlaethol. Ers mis Medi 2015 mae’r tîm canolog wedi rheoli Cofrestr Mabwysiadu Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru.
LINC I’R PODLEDIAD
National Adoption Service – Truth be Told: Adoption Stories Podcast – Season 2 (adoptcymru.com)